Skip to main content

Dewch i ddathlu pen-blwydd Parc Gwledig Cwm Dâr yn 50 mlwydd oed!

DVCP-50th-Anniversary-465x309 Contensis

Oeddech chi'n gwybod mai Parc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr oedd y parc gwledig cyntaf yng Nghymru, a chyn unrhyw le yn Lloegr, i gael ei greu ar hen dir diwydiannol? Cafodd ei agor yn 1973 ac mae bellach yn werddon naturiol, sy’n denu dros chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn sy'n heidio i weld y bywyd gwyllt, i gerdded ac i ddefnyddio Parc Beiciau Disgyrchiant i Deuluoedd a'r meysydd chwarae gwych. 

Heddiw, mae modd i ymwelwyr aros yn y gwesty a'r parc carafanau a bwyta yn y caffis ar y safle oedd unwaith yn ganolbwynt y diwydiant glo yng Nghwm Cynon lle'r oedd afonydd a nentydd wedi'u llygru gan wastraff diwydiannol a dynol; roedd y coed wedi'u torri ar gyfer propiau yn y pyllau ac roedd llawr y cwm yn dir diffaith o domenni glo.

Roedd galw mawr am y glo o Gwm Dâr. Roedd y 'glo ager', oedd yn cael ei gloddio yna, yn cael ei ddefnyddio'n bennaf mewn llongau ager, trenau ager a thyrbinau ager mewn gorsafoedd cynhyrchu trydan. Roedd hyn wedi creu marchnad allforio ryngwladol ar gyfer y glo, gan gyfrannu at y twf yn y boblogaeth yn yr ardal.

Yn 1971, newidiodd dyfodol y safle er gwell - dechreuodd y gwaith o adennill y tir diffaith - oedd yn symbol o’n hanes diwydiannol. Roedd y fenter yn cynnwys gwneud y tomenni glo’n wastad, dargyfeirio'r Afon Dâr a chreu dau lyn, sydd i'w gweld yma heddiw.

 

Mae'r parc yn un o'r enghreifftiau gorau o waith adennill tir mewn amgylchedd tomenni gwastraff glo ym Mhrydain ac mae bellach yn atyniad twristiaid sy'n ffynnu, sy'n cael ei fwynhau gan drigolion ac ymwelwyr ledled y DU - rydyn ni'n meddwl bod hyn yn rheswm i ddathlu!

 

Bydd achlysur Nadoligaidd yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr, rhwng 12pm a 5pm, gyda llawer o weithgareddau gan gynnwys:

Llawr sglefrio synthetig
Glôb eira enfawr
Reidiau i blant
Paentio wynebau
Ogof Siôn Corn

Bydd pob gweithgaredd, ac eithrio Ogof Siôn Corn, yn costio 1 tocyn. Pris tocynnau fydd £1 yr un a bydd modd eu prynu ar y stondin docynnau. Bydd Ogof Siôn Corn yn costio 2 docyn ar gyfer pob plentyn, gyda phob un yn derbyn anrheg.

Bydd gan Glwb Rheilffyrdd Model Cwm Cynon arddangosfeydd gwych yn y Ganolfan Ymwelwyr hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn goron ar Gwm Cynon. Mae ymwelwyr yn dychwelyd dro ar ôl tro ac mae'n hawdd gweld pam. Mae'r llwybrau cerdded yn ysblennydd ac mae'r fioamrywiaeth yn anhygoel. Byddwch chi'n dod o hyd i'r Cymoedd Rhewlifol mwyaf deheuol yn Ynysoedd Prydain yma. Byddai rhaid i chi deithio miloedd o filltiroedd ymhellach i'r de drwy Ewrop, i fynyddoedd y Pyrenees a'r Alpau, cyn i chi ddod o hyd i enghreifftiau eraill o'r fath. Mae ei lynnoedd, ei ddolydd llydan, agored, ei goetir, ei rostir a'i glogwyni'r un mor ddramatig â'i fynyddoedd rhewlifol a'i greigiau. Wrth gwrs, mae'r parc wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda rhagor i'w gynnig. Mae'r rhai sy'n hoffi antur yn dod yma i wibio ar hyd y llwybrau ym Mharc Beiciau Disgyrchiant i Deuluoedd, ac mae pobl eraill yn teithio yma i aros ac ymlacio yn y gwesty a'r parc carafanau. Bydd arddangosfa newydd yn agor yn y Ganolfan Ymwelwyr ddechrau 2024 fydd yn dangos esblygiad y parc o'r Chwyldro Diwydiannol hyd heddiw. Yn y cyfamser, dewch i ddathlu hanner canrif hyfryd o Barc Gwledig Cwm Dâr ddydd Sul 3 Rhagfyr!

Wedi ei bostio ar 27/10/2023