Bydd craen yn cael ei osod ar Stryd y Taf uchaf yn ardal #Pontypridd ddydd Sul, y tu allan i ddatblygiad Llys Cadwyn, ar gyfer gwaith wedi'i amserlennu i do 2 Llys Cadwyn.
Bydd y craen yn cael ei leoli ar y lôn agosaf at yr adeilad - bydd trefniadau dros dro yn caniatáu i draffig ddefnyddio'r lôn allanol. Bydd y safle tacsis a'r gilfach lwytho ar gau dros dro.
Bydd y gwaith yn dechrau am 5am ddydd Sul, 26 Tachwedd, a gallai bara tan 10pm. Serch hynny, mae'n debygol y bydd yr holl weithgarwch ar y safle yn cael ei gwblhau yn llawer cynt yn ystod y dydd. Bydd angen tywydd da i wneud y gwaith.
Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, cerddwyr a beicwyr. Bydd mynediad hefyd ar gael i eiddo.
Cofiwch, bydd gwaith ar hen safle'r neuadd bingo hefyd yn cael ei wneud ddydd Sul, a bydd angen cau nifer o ffyrdd cyfagos yng nghanol tref Pontypridd.
Mae’r ardal fydd ar gau yn cynnwys rhannau o Stryd y Taf isaf, Stryd Fawr, Stryd y Felin a Stryd y Farchnad – mae rhagor o fanylion yma.
Mae'r ddau gynllun wedi'u lleoli'n agos at ei gilydd ond maen nhw'n gallu rhedeg ar yr un pryd. Rydyn ni'n rhagweld y bydd cyn lleied o aflonyddwch ychwanegol â phosibl.
Diolch ymlaen llaw i drigolion, ymwelwyr â chanol y dref a busnesau lleol am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 22/11/2023