Mae disgyblion yn ardal Beddau bellach yn elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn dosbarthiadau modern a chyfleusterau chwaraeon gwell, ac mae’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg wedi ymweld â'r ysgol yn ddiweddar er mwyn gweld y cyfleusterau newydd gwych yma.
Mae dosbarthiadau newydd ar gyfer y chweched dosbarth wedi’u hadeiladu yn Ysgol Bryn Celynnog, ynghyd â chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion o bob grŵp oedran. Mae'r rhain yn cynnwys lleoedd ar gyfer gwersi celf, mathemateg a rhifedd, a dwy ystafell TGCh newydd. Mae'r ysgol hefyd yn elwa ar gampfa, ystafell ffitrwydd a stiwdio ddawns newydd, gyda man casglu a maes rygbi gwair newydd y tu allan.
Roedd angen dymchwel yr hen gampfa a thŷ gofalwr yr ysgol er mwyn cwblhau'r datblygiad. Mae'r adeiladau newydd wedi cyflawni statws gweithredu Carbon Sero-Net, gan gydymffurfio â nodau a rhwymedigaethau'r Cyngor o ran Newid yn yr Hinsawdd.
Mae'r cyfleusterau wedi cynyddu capasiti'r ysgol. Cawson nhw eu trosglwyddo i'r Cyngor gan y Contractwr, ISG, yn yr wythnosau diwethaf. Ymwelodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet y Cyngor â'r disgyblion a staff ddydd Iau, 23 Tachwedd, i weld sut maen nhw’n mwynhau’r cyfleusterau newydd.
Mae'r buddsoddiad yma wedi cael ei ddarparu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £75.6 miliwn ledled ardal Pontypridd.
Roedd trosglwyddo'r cyfleusterau yn nodi diwedd Cam Cyntaf y prosiect cyfan yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog. Mae'r Ail Gam yn parhau, er mwyn dymchwel yr hen adeilad mathemateg a chreu maes parcio ychwanegol i staff ar y safle.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Roedd hi’n bleser ymweld ag Ysgol Gyfun Bryn Celynnog i weld y dosbarthiadau a chyfleusterau chwaraeon trawiadol newydd sydd bellach ar gael i'r ysgol. Roedd hi’n wych gweld y disgyblion yn mwynhau'r cyfleusterau celf, mathemateg, TGCh ac addysg gorfforol newydd, ynghyd â'r cyfleusterau newydd ar gyfer y chweched dosbarth - sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y gymuned yn elwa arnyn nhw am genedlaethau i ddod.
"Mae'r datblygiad yma ym mhentref Beddau yn elfen o'r buddsoddiad ehangach gwerth £75.6 miliwn mewn cyfleusterau addysg ledled ardal ehangach Pontypridd - gyda chynlluniau sylweddol ar waith yng Nghilfynydd, Beddau a Rhydfelen. Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn rhan o'i Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, i ddarparu adeiladau ysgol newydd yn Llantrisant, Pentre’r Eglwys, Pont-y-clun a Glynrhedynog. Mae datblygiad cyffrous arall wedi'i gadarnhau ar gyfer Glyn-coch, gan ddefnyddio pecyn cyllid arall gan Lywodraeth Cymru.
"Diolch i'r staff a disgyblion ym mhentref Beddau am fy nghroesawu i'r ysgol ddydd Iau, ac am fy nhywys o amgylch y cyfleusterau newydd. Roedd hi’n wych gweld y dosbarthiadau modern a'r cyfleusterau campfa newydd yn ogystal â'r gwelliannau allanol i'r safle ehangach - gan gynnwys maes rygbi newydd sy'n cydweddu â'r maes 3G a'r trac athletau sydd wedi'u cwblhau yn y blynyddoedd diweddar.
"Bydd y cam nesaf yn cynnwys dymchwel hen ddosbarthiadau er mwyn creu maes parcio ychwanegol i staff ar y safle. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r contractwr er mwyn cyflawni hyn gan darfu cyn lleied â phosibl ar safle'r ysgol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect yma wedi'i gwblhau yn y flwyddyn nesaf."
Wedi ei bostio ar 29/11/2023