Skip to main content

Hwyl yr Haf yn Nhaith Pyllau Glo Cymru!

Festival-Logo-2023-Welsh

Mae llawer yn digwydd yn Nhaith Pyllau Glo Cymru haf eleni!  Y dilyn ein clwb Archaeoleg boblogaidd i blant, am undydd yn unig, rydyn ni'n cynnal Gŵyl Archaeoleg yn y lleoliad!

Ddydd Iau 27 Gorffennaf, bydd plant rhwng 3 a 11 mlwydd oed yn cael cyfle i archwilio byd Celtiaid Oes yr Haearn.  Mae gweithgareddau'n cynnwys gwneud wal gwiail a phridd bychan a dylunio erfyn archeolegol ar gyfer y dyfodol. Bydd Llwybr Celtaidd i'w ddilyn drwy'r lleoliad hefyd.

Bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal ar y diwrnod, 10:30am tan 12:30pm a 1:30pm tan 3:30pm.  Dim ond 60 o leoedd sydd ar gael, felly rydyn ni'n eich cynghori chi i gadw lle ymlaen llaw. Mae modd prynu tocynnau yma.  Mae tocynnau am ddim i oedolion a phris pob tocyn plentyn yw £3.

 Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn atyniad gwych i dwristiaid ac mae'n ychwanegu elfennau newydd yn rheolaidd er mwyn i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro i ddarganfod pethau newydd.  Mae clwb archaeoleg y plant wedi bod yn llwyddiant ysgubol felly mae'n wych cael gweld hyn yn cael ei ehangu drwy gynnal Gŵyl Archaeoleg.  Mae'n hawdd iawn i wneud diwrnod ohoni yma yn ystod Gwyliau'r Haf - mae'r tywyswyr yn gwneud y teithiau tanddaearol yn hwyl ar gyfer pob oedran bob tro ac mae gan y caffi fwydlen wych i blant hefyd.

Am wybodaeth am deithiau a'r holl achlysuron yn Nhaith Pyllau Glo Cymru gan gynnwys Dinomania a Rhialtwch Calan Gaeaf, dilynwch Barc Treftadaeth Cwm Rhondda ar y cyfryngau cymdeithasol a bwriwch olwg ar www.parctreftadaethcwmrhondda.com

Wedi ei bostio ar 31/05/23