Skip to main content

Gwaith i ddechrau i uwchraddio gorsaf bwmpio dŵr wyneb Glenboi

Mae gwaith sylweddol gwerth £1.4 miliwn i uwchraddio gorsaf bwmpio Glenboi yn dechrau, a hynny yn dilyn gwaith paratoi ar y safle hyd yma. Mae'r cynllun yn defnyddio cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru i leihau perygl llifogydd yn y gymuned.

Mae'r Cyngor wedi penodi Envolve Infrastructure Ltd i gyflawni'r cynllun, ac mae'r contractwr wedi paratoi'r safle ar gyfer y peiriannau/offer ac wedi cynnal gwaith galluogi yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Mae hyn yn dilyn gwaith ymchwilio ar y safle yn ystod yr hydref. Bydd y prif waith ar gyfer uwchraddio'r orsaf bwmpio yn dechrau o ddydd Iau, 16 Mawrth, ac mae disgwyl y bydd y gwaith yn para tua phum mis.

Mae'r cynllun yn elwa o gyfraniad o 85% (dros £1.2 miliwn) gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid sy'n weddill yn dod o Raglen Gyfalaf y Cyngor.

Bydd gan yr orsaf bwmpio newydd gapasiti mwy, a bydd wedi'i chynllunio i ddarparu ar gyfer dŵr wyneb a llifoedd o ddŵr dros dir yn yr ardal leol. Bwriad y buddsoddiad yw sicrhau gwydnwch hirdymor i'r gymuned.

Bydd y ffordd wrth rifau 16 ac 17, Glenboi ar gau drwy gydol y cynllun. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys, a bydd mynediad ar gael i bob eiddo lleol. Mae trigolion lleol wedi derbyn llythyr yn egluro'r gwaith a'r safle adeiladu sydd wedi'i osod.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Yn dilyn cadarnhad cyllid diweddar Llywodraeth Cymru, mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd y gwaith i uwchraddio gorsaf bwmpio Glenboi yn dechrau yn fuan. Mae hyn yn dilyn gwaith ymchwilio a gafodd ei gynnal ar y safle yn ystod yr hydref, a'r gwaith gosod a pharatoi gan ein contractwr ar y safle ers y Flwyddyn Newydd.

"Bydd yr orsaf bwmpio wedi'i huwchraddio yn rhoi sicrwydd i'r gymuned mewn perthynas â pherygl llifogydd hysbys yn ardal Glenboi, lle mae dŵr yn mynd i mewn i'r man isel yn y ffordd. Bydd y cynllun gwerth £1.4 miliwn yn gwella'r system bresennol i ddal llifoedd o ddŵr yn ystod stormydd, a hefyd yn lleihau'r llif i gwlfer i lawr yr afon.

"Mae'r Cyngor yn blaenoriaethu buddsoddiad wedi'i dargedu i wella'r gallu i wrthsefyll llifogydd, gan gydnabod bod cyfnodau o law trwm yn fwyfwy tebygol o ganlyniad i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Mae ein rhaglen waith garlam yn cynnwys mwy na 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd, ac mae hanner ohonyn nhw eisoes wedi’u cwblhau – gyda £18 miliwn wedi’i wario ar uwchraddio seilwaith a £25 miliwn wedi'i wario ar waith atgyweirio difrod yn sgil stormydd yn y blynyddoedd diwethaf.

“Rydyn ni wedi croesawu cyfraniad sylweddol gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni cynllun Glenboi, ac mae hynny'n rhan o gyllid ehangach ar gyfer lliniaru llifogydd yn 2022/2023. Cafodd dros £6.4 miliwn ei sicrhau y flwyddyn ariannol bresennol ar gyfer gwaith atgyweirio sy'n gysylltiedig â Storm Dennis, yn ogystal ag oddeutu £3.9 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ar draws y rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a'r rhaglen Grant Gwaith Graddfa Fach. Rydyn ni hefyd wedi derbyn £400,000 i ddatblygu 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach.

"Rydyn ni wedi bod wrthi'n cynnal gwaith paratoi yng Nglenboi ers tipyn felly fydd y prif gynllun ddim yn tarfu llawer ar drigolion lleol. Bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau a does dim disgwyl y bydd rhaid rhoi rhagor o ddulliau rheoli traffig ar waith.

"Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r contractwr rydyn ni wedi'i benodi i wneud y cynnydd angenrheidiol dros yr wythnosau nesaf, a hynny er mwyn cyflawni'r buddsoddiad sylweddol yma gwerth £1.4 miliwn i liniaru llifogydd ar gyfer y gymuned."

Wedi ei bostio ar 16/03/2023