Skip to main content

Ailgylchwch Wastraff Gwyrdd y Gwanwyn yma

Bydd casgliadau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn digwydd yn wythnosol o ddydd Llun 13 Mawrth.

Cofiwch, mae angen i chi gofrestru AM DDIM i ddefnyddio'r gwasanaeth yma.

Ar ôl gaeaf oer a gwlyb, efallai eich bod chi'n awyddus i'r haul wenu i helpu'ch gardd i flodeuo.

Bydd nifer ohonoch chi'n dechrau mynd i'ch gerddi am y tro cyntaf ers misoedd i roi bach o sylw iddyn nhw – ond beth fyddwch chi'n ei wneud â thoriadau'r llwyni, toriadau'r lawnt a'r darnau o blanhigion?

Newidiodd y cynllun ailgylchu gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i newid yn yr hinsawdd ac ailgylchu. Cafodd y sachau gwyrdd cynaliadwy ac aml-ddefnydd eu cyflwyno, a bellach mae angen i chi gofrestru ar gyfer casgliadau.

Dyma eich atgoffa y bydd y garfan Gofal y Strydoedd yn dechrau casglu eich holl wastraff gwyrdd o ochr y ffordd yn wythnosol. Bydd hyn yn rhan o gasgliad ailgylchu wythnosol yr haf, o ddydd Llun 13 Mawrth ymlaen.

Mae modd i chi ailgylchu'r holl wastraff o'ch gerddi, gan gynnwys toriadau, llwyni, blodau a brigau. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi'r gwastraff gwyrdd yn y sachau gwyrdd, aml-ddefnydd a'u gadael nhw wrth ochr y ffordd ar eich diwrnod casglu arferol.

Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, mae amser gyda chi o hyd! Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM yn gyflym ac yn ddidrafferth ar-lein trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd.

Os does dim modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwch chi wedyn yn cael DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd.

Mae sachau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma ar gyfer cost y sach yn unig. Mae pob sach yn cyfateb o ran maint i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.

Cyn i'r sachau newydd gael eu cyflwyno, roedden ni'n casglu tua 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd yn flynyddol ar gyfartaledd - mae hyn yn cyfateb i 2,739,000 o fagiau ailgylchu llawn!

Peidiwch â rhoi pridd yn eich gwastraff gwyrdd gan nad oes modd i ni ei ailgylchu yn rhan o'n cynllun casglu gwastraff gwyrdd wrth ochr y ffordd ar hyn o bryd.

Bydd modd defnyddio'r sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. Fyddwn ni DDIM yn casglu rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.

Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd / o'r ardd i un o'n nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae pob Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn dal i weithredu o dan oriau agor y gaeaf, sef rhwng 8am a 5.30pm. Bydd yr oriau agor yn newid ddydd Llun 27 Mawrth, sef rhwng 8am a 7.30pm.

Dyma'ch atgoffa i labelu'ch sachau'n glir gan nodi rhif/enw eich eiddo. Mae pob sach wedi'i chofrestru i eiddo unigol a byddwn ni ond yn casglu nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i'r eiddo. Bydd criwiau yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd y sachau i eiddo mor ddiogel â phosibl.

Meddai Steve Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd:

“Hoffwn ddiolch i drigolion am ymuno â’r cynllun ac ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd. Mae'r newidiadau a gafodd eu gwneud i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd y llynedd a'r newidiadau i gasgliadau bagiau du a biniau sydd ar ddod i gyd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

“Mae rhagor o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol wrth ochr y ffordd.

“Rwy’n annog ein holl drigolion nad ydyn nhw’n ailgylchu ar hyn o bryd i ddod at ei gilydd i WELLA ein hymdrechion Ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!

Nodwch: Does dim modd i ni gasglu celfi patio na siediau sy'n hen neu sydd wedi'u difrodi. Serch hynny, mae modd mynd â'r rhain, ynghyd â gwastraff arall o'r ardd gan gynnwys pridd, i un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Bydd y canolfannau ar agor rhwng 8am a 7.30pm (oriau agor tymor y gwanwyn/yr haf) o ddydd Llun 27 Mawrth. Ar hyn o bryd, maen nhw ar agor rhwng 8am a 5.30pm (oriau agor tymor y gaeaf) tan y dyddiad uchod. Am ragor o wybodaeth, ewch i

www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk, ffoniwch 01443 425001 neu dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter.

Wedi ei bostio ar 06/03/23