Skip to main content

Llwyddiant Grant Paneli Solar

Solar Panels on House

Yn ddiweddar, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn darparu grant i gynorthwyo preswylwyr Rhondda Cynon Taf i brynu Paneli Solar ar gyfer eu cartrefi.

Un o flaenoriaethau'r Cyngor yw gwneud cartrefi presennol yn fwy effeithlon o ran ynni trwy dechnolegau fel paneli solar. Bydd y Grant Paneli Solar yn helpu trigolion gyda chostau prynu a gosod Paneli Solar Ffotofoltaidd ar eu cartrefi. Mae modd i drigolion dderbyn 25% tuag at gyfanswm cost prynu a gosod, hyd at uchafswm o £1000 o gyfraniad tuag at gyfanswm y gost.

Os ydych chi'n berchennog tŷ yn Rhondda Cynon Taf, efallai bydd Paneli Solar yn opsiwn ichi leihau allyriadau carbon eich tŷ ynghyd ag arbed arian ar eich bil trydan drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy eich hunan. Mae Paneli Solar yn gweithio drwy ddal ynni'r haul a'i drosi'n drydan, does dim angen golau haul uniongyrchol er mwyn i ynni'r haul gael ei ddal am fod modd cynhyrchu trydan ar ddyddiau cymylog!

 

Ers lansio'r grant, mae llawer o breswylwyr wedi elwa ac wedi gosod Paneli Solar. Dyma beth oedd gan rai o'r ymgeiswyr i'w ddweud.

Roedd gan Geraint Williams ddiddordeb mewn gosod paneli solar er mwyn lleihau ei gostau bob mis ydros y tymor hi er mwyn paratoi ar gyfer ymddeol. Roedd yn ddiolchgar am dderbyn cyfraniad o bron i £1000 tuag at gost y gwaith ac mae'n gweld manteision gosod paneli solar yn barod.  Mae cost ei filiau ynni wedi haneru ac mae hefyd yn bwriadu gwerthu'r trydan dros ben yn ôl i'r grid cenedlaethol yn ystod y misoedd mwy heulog. Mae Geraint wedi nodi ei fod wedi'i blesio ar y cyfan gyda'r grant a'r gwasanaeth roedd wedi'i dderbyn drwy gydol y broses.

Roedd gan Mike Walker ddiddordeb mewn cael paneli solar o ganlyniad i'r cynydd yng nghostau ynni. Pan welodd yr wybodaeth am y grant ar Facebook, roedd yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i'w helpu i brynu a gosod paneli solar am iddo dderbyn cyfraniad sylweddol tuag at gyfanswm y gost. Mae wedi teimlo manteision y paneli solar yn syth, ynghyd â gostyngiad sylweddol yn ei ddefnydd o drydan y grid cenedlaethol. Mae'n diolch i Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor am eu cymorth yn ystod y broses.

 

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris - Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant:

"Mae'r grant paneli solar yn cynnig cyfle gwych i'n preswylwyr fuddsoddi mewn ynni gwyrdd drwy wneud paneli solar yn fwy fforddiadwy.

"Mae'n hyfryd clywed sut mae'r Grant Paneli Solar wedi elwa'r rheiny sydd wedi gosod paneli solar ar eu heiddo ac rwy'n gobeithio bydd rhagor o breswylwyr yn elwa o'r cynllun yma dros y misoedd nesaf."

 

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y Grant Paneli Solar a gwasanaethau eraill mae'r Garfan Gwresogi ac Arbed yn ei gynnig, bwriwch olwg ar y gwefan

Neu os hoffech chi drafod sut gallwch chi elwa o'r grant paneli solar, cysylltwch â'r Garfan Gwresogi ac Arbed ar 01443 281136 ar GwresogiacArbed@rctcbc.gov.uk er mwyn trafod ymhellach.

Wedi ei bostio ar 20/03/2023