Skip to main content

Paratoi i ddymchwel adeiladau allweddol ar gyfer Cynllun Adfywio Pontypridd

Marks-and-Spencer

Bydd trigolion ac ymwelwyr â Chanol Tref Pontypridd yn sylwi ar waith yn hen adeiladau Marks and Spencer a Dorothy Perkins o wythnos nesaf ymlaen er mwyn paratoi i adfywio'r safle.

Mae datblygu'r safle yma'n rhan allweddol o Gynllun Adfywio Pontypridd a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mehefin 2022 yn dilyn adborth cadarnhaol gan y cyhoedd. Mae'r cynllun yn nodi'r uchelgeisiau craidd ar gyfer y dref gan gynnwys 'Porth y De' sy'n golygu y bydd modd datblygu a dechrau defnyddio sawl safle allweddol eto.

Bydd ailddatblygu adeiladau M&S, Dorothy Perkins a Burtons (97-99a, 100-102 Stryd y Taf) yn gyfle i agor y treflun tuag at yr afon a'i ddefnyddio at ddibenion hamdden, masnachu a manwerthu.

Cafodd cwmni Rhomco Consulting Ltd ei benodi yn 2022 i arwain carfan amlddisgyblaethol i gynnal arolwg a chynllunio proses dymchwel safle M&S/Dorothy Perkins. Lluniodd y cwmni raglen fanwl a gafodd ei hadolygu.

Mae cwmni Walters Ltd wedi'i benodi yn gontractwr i ddymchwel yr adeiladau. Bydd y contractwr yn dechrau paratoi'r safle o ddydd Llun, 27 Mawrth fel bod modd dymchwel yr adeiladau eleni. Bydd wal dros dro yn cael ei gosod ar y llwybr troed o flaen yr adeiladau gwag ar Stryd y Taf er mwyn diogelu'r safle. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal yn yr adeilad.

Bydd y gwaith ar y safle'n cynnwys datgysylltu gwasanaethau, cael gwared ar osodiadau a ffitiadau mewnol, symud eitemau o'r safle i gael eu hailgylchu a gwahanu ffrydiau gwastraff. Bydd gweithwyr diogelwch ar y safle pan nad oes gwaith yn digwydd.

Bydd Walters Ltd yn gweithio'n galed i leihau'r aflonyddwch ar ganol y dref wrth gynnal gwaith paratoi. Bydd busnesau lleol yn derbyn llythyr yn esbonio rhagor am y gwaith yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 20 Mawrth.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae hen adeiladau Marks and Spencer a Dorothy Perkins mewn lleoliadau strategol yng Nghanol Tref Pontypridd ac mae’r gwaith ailddatblygu'n allweddol ar gyfer dyfodol yr ardal. Mae oddeutu £115 miliwn eisoes wedi’i fuddsoddi yn Fframwaith Adfywio Pontypridd (2017-2022), a oedd yn cynnwys cyflawni datblygiadau Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf, yn ogystal â chynnydd tuag at welliannau i YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni a Pharc Coffa Ynysangharad.

"Y llynedd, dangosodd yr ymgynghoriad ar gynllun ehangach adfywio Pontypridd, yn ogystal â'r cynlluniau ar gyfer adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons, fod 90% o'r bobl a ymatebodd o blaid agor y treflun a datblygu glannau'r afon a chyfleoedd hamdden, masnachu a manwerthu. Dyma weledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol i ddechrau ailddefnyddio safle gwag.

"Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ddymchwel yr adeiladau ar Stryd y Taf a bydd gwaith paratoi mewnol yn dechrau ddydd Llun. Bydd ymwelwyr â chanol y dref yn sylwi ar wal dros dro yn cael ei gosod o flaen y safle er mwyn paratoi at ei ddymchwel eleni. Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r contractwr i wneud y cynnydd perthnasol mor gyflym ac effeithlon ag sy'n bosibl dros yr wythnosau nesaf."

Wedi ei bostio ar 23/03/2023