Skip to main content

Dewch i ddysgu rhagor am ysgol 3-16 arfaethedig Pontypridd

The Pontypridd 3-16 school consultation is now underway

Mae bellach modd i drigolion gymryd rhan mewn ymgynghoriad cynllunio ar gyfer ysgol 3-16 newydd Pontypridd ar safle Ysgol Uwchradd Pontypridd. Mae’r broses ymgynghori'n cynnwys sesiwn galw heibio i'r gymuned yn yr ysgol yr wythnos nesaf.

Mae'r ysgol 3-16 newydd yn rhan o fuddsoddiad £75.6 miliwn y Cyngor mewn cyfleusterau addysg newydd sbon ledled ardal Pontypridd – gyda phrosiectau mawr yn y broses o gael eu datblygu yn y Ddraenen Wen, Cilfynydd, Beddau a Rhydfelen. Mae rhan o'r buddsoddiad yn dod trwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (hen raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif).

Bydd ysgol 3-16 newydd Pontypridd yn croesawu disgyblion, sydd ar hyn o bryd yn mynd i Ysgol Gynradd Cilfynydd ac Ysgol Uwchradd Pontypridd, ym mis Medi 2024, a bydd y datblygiad yn buddsoddi oddeutu £15 miliwn yn safle presennol yr ysgol uwchradd.

Os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo, bydd y prosiect yn creu ardal ysgol gynradd newydd sbon ynghyd â chae chwaraeon 3G newydd ac Ardal Chwaraeon Amlddefnydd (MUGA). Bydd elfennau o brif adeilad yr ysgol yn cael eu hadnewyddu yn rhan o'r datblygiad ehangach, a bydd maes parcio'r ysgol yn cael ei ad-drefnu.

Mae'r Cyngor wedi penodi Asbri Planning Ltd i gynnal Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais am Gynllunio mewn perthynas â'r elfennau o'r prosiect sydd angen caniatâd cynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys dymchwel tŷ'r gofalwr, addasu’r maes parcio, a darparu’r cae chwaraeon 3G, mannau chwarae newydd a llifoleuadau.

Mae bellach modd i drigolion ddarganfod mwy a dweud eu dweud ar wefan Asbri Planning. Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Iau, 6 Ebrill.

Mae'r dogfennau allweddol sy'n ymwneud â'r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys cynlluniau safle ar gael yn eu cyfanrwydd ar y wefan. Bydd yr adborth sy'n dod i law yn helpu i lywio cais cynllunio terfynol y Cyngor, a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i'w drafod yn y dyfodol.

Mae modd i drigolion ddweud eu dweud drwy e-bostio mail@asbriplanning.co.uk neu drwy'r post, gan ddefnyddio'r cyfeiriad post sydd wedi'i gynnwys ar hafan yr ymgynghoriad.

Mae croeso hefyd i drigolion alw heibio i Ysgol Uwchradd Pontypridd unrhyw bryd rhwng 3pm a 6pm  ddydd Mawrth, 28 Mawrth, pan fydd swyddogion y Cyngor yn cyflwyno'r prosiect ac yn ateb cwestiynau am y cynlluniau.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae ysgol 3-16 newydd Pontypridd yn un o’r datblygiadau cyffrous sy'n rhan o fuddsoddiad gwerth £75.6 miliwn mewn addysg ar gyfer ardal Pontypridd. Rydyn ni'n parhau â'n hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ar draws ein bwrdeistref sirol, ar y cyd â'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

“Byddai'r cynlluniau ar gyfer ysgol 3-16 Pontypridd yn gweld buddsoddiad gwerth £15 miliwn i wella safle’r ysgol uwchradd yng Nghilfynydd – gan greu ardal gynradd newydd, yn ogystal â chae chwaraeon 3G newydd ac Ardal Chwaraeon Amlddefnydd.  Byddai’r maes parcio’n cael ei ad-drefnu a byddai elfennau o adeilad presennol yr ysgol yn cael eu hadnewyddu, gan ddarparu cyfleusterau sy'n addas i'r 21ain ganrif ac sy'n destun balchder i'r gymuned leol. Byddai ardal yr ysgol gynradd newydd yn anelu at fod yn garbon Sero Net, yn unol â'n hymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd.

“Erbyn hyn mae modd i chi ddweud eich dweud ar y prosiect mewn Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais Cynllunio, ac rwy’n annog aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i wneud hynny cyn i’r broses ddod i ben ar 6 Ebrill. Mae croeso hefyd i bawb ddod i'r achlysur cymunedol sy wedi'i drefnu yn Ysgol Uwchradd Pontypridd ar 28 Mawrth. Rydyn ni wedi cynnal achlysuron tebyg ar gyfer prosiectau buddsoddi mewn ysgolion yn y gorffennol, ac roedden nhw’n ddefnyddiol iawn i gyflwyno'r holl gynlluniau i’r gymuned ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl leol.”

Wedi ei bostio ar 24/03/2023