Skip to main content

Cynnydd da yn cael ei wneud ar y safle ar gyfer cyfleusterau ysgol newydd y Ddraenen Wen

Cllr Lewis visit to Hawthorn - grid 2

Mae Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg y Cyngor wedi ymweld â staff a disgyblion yn y Ddraenen Wen, ac wedi gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at adeiladu cyfleusterau addysg newydd o'r radd flaenaf a fydd yn cael eu cwblhau'r flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth y Cynghorydd Rhys Lewis ymweld â'r safle ddydd Iau 25 Mai, ynghyd â grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen. Roedd pennaeth yr ysgol 3-16 newydd a chynrychiolwyr o'r contractwr Kier a'i bartner AECOM hefyd yn bresennol.

Ymunodd y Cynghorydd Lewis â’r disgyblion i lofnodi’r dur a fydd yn cael ei ddefnyddio yn adeilad newydd yr ysgol, gan nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu.

Mae'r datblygiad yn rhan o fuddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ehangach y Cyngor mewn cyfleusterau addysg newydd sbon yn ardal ehangach Pontypridd, sy'n cael ei ddarparu ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn creu ysgol 3-16 newydd, gan groesawu disgyblion o Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd Heol y Celyn (ffrwd cyfrwng Saesneg) ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen yn 2024. Bydd rhai adeiladau ar safle presennol yr ysgol gynradd ac uwchradd yn y Ddraenen Wen yn cael eu dymchwel a bydd datblygiad carbon sero-net newydd sbon yn cael ei osod yn eu lle. Bydd adeiladau eraill yn cael eu hadnewyddu a bydd maes parcio newydd i staff, maes parcio bysiau a man gollwng a chasglu disgyblion yn cael eu darparu.

Ddydd Iau, derbyniodd y Cynghorydd Lewis yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect gan y contractwr. Mae cynnydd pwysig wedi'i wneud ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf. Mae cam cyntaf y gwaith wedi'i gwblhau, ac mae'r meysydd parcio a'r mannau gollwng a chasglu bellach wedi'u hadeiladu.

Mae ail brif gam y gwaith bellach ar y gweill, i adeiladu'r adeiladau newydd ar gyfer yr ysgol. Mae hyn ar y trywydd i’w gwblhau yn y  gwanwyn y flwyddyn nesaf mewn pryd i groesawu disgyblion i’r ysgol 3-16 ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2024. Bydd trydydd cam o’r gwaith yn dilyn, i gwblhau gwaith allanol erbyn Rhagfyr 2024.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Diolch i’r holl ddisgyblion a staff o Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, am eich croeso cynnes iawn ar safle’r datblygiad ddydd Iau. Dyma gyfnod cyffrous i’r prosiect, gyda'r sylw bellach yn troi at adeiladu’r prif adeiladau wedi i gam cyntaf y gwaith o adeiladu’r meysydd parcio gael ei gwblhau’n ddiweddar.

“Mae’r datblygiad yn y Ddraenen Wen yn un o bedwar prosiect mawr sy’n cael eu darparu gan y Cyngor drwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a hynny mewn buddsoddiad gwerth £75.6 miliwn. Bydd hefyd yn darparu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen, ysgol 3-16 oed newydd Pontypridd yng Nghilfynydd, a bloc chweched dosbarth newydd a chyfleusterau ychwanegol yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn y Beddau. Bydd yr holl brosiectau hyn yn gwneud cynnydd pwysig yn y flwyddyn i ddod.

“Mae prosiectau eraill sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gyda buddsoddiad wedi'i sicrhau gan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu yn cynnwys adeiladau newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi dros y ddwy flynedd nesaf – yn ogystal ag ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Mae'r rhaglen uchelgeisiol yma'n cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu mwy o gyfleusterau addysg newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a chyfrannu at ein nodau Newid yn yr Hinsawdd wrth i bob prosiect anelu at weithredu'n Garbon Sero-Net.

“Roedd yn wych gweld cynnydd y datblygiad newydd yn y Ddraenen Wen ar y safle, a fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol a'r gymuned.  Bydd y buddsoddiad yn dod â chyfleoedd cyffrous i bobl ifainc o ran eu haddysg, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”

Wedi ei bostio ar 02/06/23