Skip to main content

Asesu cyflwr ochr y mynydd ar yr A4061 Ffordd y Rhigos

Rhigos 1 - Copy

Cynhelir archwiliad manwl o'r rhwydi creigiau wrth Ffordd y Rhigos dros yr haf yn dilyn tân gwyllt mawr y llynedd. Bydd raid defnyddio goleuadau traffig ychwanegol, ond fydd dim angen cau'r ffordd.

Digwyddodd y tân ym mis Awst 2022 gan achosi difrod sylweddol i ochr y mynydd, y rhwydi plastig a gwifren a ffensys. Ailagorodd y ffordd ym mis Medi 2022 yn dilyn gwaith brys ac mae'r goleuadau traffig dros dro wedi parhau yno er mwyn cadw'r traffig draw oddi wrth ran beryglus y rhwydi creigiau.

Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths Ltd yn gontractwr i archwilio'r rhan fawr sydd wedi'i heffeithio gan y tân. Bydd y gwaith yn para tua 5 wythnos o ddydd Llun, 12 Mehefin. Mae'r rhwydi creigiau ar yr A4061 ar ochr Rhigos y mynydd a bydd yr archwiliad yn hwyluso’r gwaith trwsio neu ailosod fydd ei angen ar y system. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal ar y safle y flwyddyn nesaf (2024/25), yn amodol ar gael y gymeradwyaeth berthnasol.

Bydd y gwaith yn cynnwys archwilio darn o dir tua 1,500 metr a bydd angen cau lôn o’r ffordd gerbydau tua'r de. Bydd raid gosod goleuadau traffig dwy ffordd dros dro dros bellter o 300 metr a bydd lleoliad y goleuadau yma'n symud wrth i'r archwiliad fynd yn ei flaen.

Nodwch y bydd raid i'r lôn sydd eisoes ar gau ar yr A4061 barhau i fod ar gau trwy gydol y gwaith archwilio felly bydd rhai adegau pan fydd dwy ran o'r ffordd ar gau.

Os bydd yr archwiliad yn dod o hyd i ddiffygion y mae angen mynd i'r afael â nhw ar frys, bydd modd cynnal y gwaith yma yn ystod gwyliau’r haf eleni cyn y prif gynllun a fydd yn digwydd dros yr haf y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae hyn yn gwbl ddibynnol ar ganlyniad yr adroddiad archwilio gan y contractwr.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r archwiliad ar rwydi creigiau Ffordd y Rhigos yn bwysig er mwyn asesu cyflwr ochr y mynydd yn dilyn tân y llynedd a llywio'r gwaith cynllunio ac adeiladu i drwsio'r difrod. Bydd y prif waith yma'n cael ei gynnal dros yr haf y flwyddyn nesaf.

"Rwy'n falch iawn bod modd cynnal yr archwiliad heb orfod cau'r ffordd yn llawn ac felly rydyn ni'n osgoi tarfu ar deithiau preswylwyr a chymudwyr. Fodd bynnag, bydd angen mesurau rheoli traffig ychwanegol, yn ogystal â'r goleuadau traffig sydd eisoes yno, felly bydd amser teithio ar hyd y ffordd yma'n hirach na’r arfer yn ystod yr archwiliad. Diolch i breswylwyr a phawb sy'n defnyddio'r ffordd yma am eich cydweithrediad dros yr wythnosau nesaf wrth i ni asesu cyflwr ochr y mynydd."

Wedi ei bostio ar 07/06/2023