Skip to main content

Mae sesiynau nofio dŵr oer ar y penwythnos yn Lido Ponty

Square-Cold-Water-Swim

Dyma newyddion anhyg-oer!

Mae sesiynau nofio dŵr oer ar y penwythnos yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Pontypridd yn dychwelyd y mis nesaf.  

Mae carfan y Lido wedi cadarnhau bydd sesiynau nofio dŵr oer yn dychwelyd ddydd Sadwrn, 4 Chwefror, gyda phedair sesiwn y dydd bob dydd Sadwrn a dydd Sul hyd at 12 Mawrth.

Mae'r sesiynau nofio dŵr oer yn dychwelyd wedi cyfnod prawf llwyddiannus y llynedd, pan fu nofwyr yn mwynhau nofio yn y ddau brif bwll yn Lido Pontypridd, gyda thymheredd y dŵr yn 15 gradd.

Dywedodd pawb oedd wedi mynychu y bydden nhw'n hoffi dychwelyd a dywedodd y rhan fwyaf y bydden nhw'n hoffi sesiynau byrrach.

O ganlyniad i hyn, bydd yr amserlen newydd yn cynnig pedair sesiwn nofio y dydd.

  • 8am – 8.45am
  • 9am – 9.45am
  • 10am – 10.45am
  • 11am - 11.45am

Pris y tocynnau fydd £3 y person ac maen nhw ar werth nawr www.lidoponty.co.uk

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'n gyffrous gweld ein Lido hyfryd ym Mhontypridd yn cael ei ddefnyddio mewn cymaint o wahanol ffyrdd ac rydyn ni'n ddiolchgar i'n cwsmeriaid am eu cefnogaeth.

"Tra bo llawer o bobl yn dyheu am ddiwrnodau heulog er mwyn iddyn nhw allu sblasio yn y pwll neu ddechrau eu diwrnod â sesiwn nofio ben bore, mae bron yr un nifer o gwsmeriaid yn mwynhau'r sesiynau dŵr oer.

"Roedden ni wedi croesawu llawer o wynebau newydd yn ystod y cyfnod prawf ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn dychwelyd."

Wedi ei bostio ar 26/01/2023