Skip to main content

Cynnig yr opsiwn a ffefrir i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl

Bydd cynigion mawr i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal preswyl a'u moderneiddio yn cael eu hystyried yn fuan. Maen nhw'n cynnwys tri chyfleuster newydd yn cynnig Gofal Ychwanegol a gofal dementia preswyl, pedwerydd llety newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, a chadw pum cartref gofal y Cyngor.

Mae moderneiddio a gwella'r ddarpariaeth gofal i oedolion yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae hyn mewn ymateb i boblogaeth sy’n heneiddio, llai o alw am gartrefi gofal ‘traddodiadol’ a newidiadau yn yr hyn mae pobl yn ei ddisgwyl o’r gwasanaeth.

Cymeradwywyd ymrwymiad gan y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn yn 2016, a chytunwyd ar gynllun buddsoddi gwerth £50 miliwn i ddarparu 300 o welyau Gofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf yn 2017. Mae dau gyfleuster newydd llwyddiannus wedi’u creu yn Aberaman a’r Graig, ochr yn ochr â Linc Cymru, i ddarparu 100 o welyau newydd.

Mae cynigion newydd bellach wedi’u cyflwyno, i’w hystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ddydd Mawrth, 29 Tachwedd, a’r Cabinet ddydd Llun, 5 Rhagfyr.

Mae'r opsiwn a ffefrir yn canolbwyntio ar wasanaethau ataliol, dewis, annibyniaeth, llesiant ac anghenion ar gyfer y dyfodol. Byddai’n cynyddu’r opsiynau i bobl sydd angen llety a gofal, ac yn cynnig dewis ymarferol arall i’r rhai sy’n gallu aros yn annibynnol gyda chymorth. Dyma'r cynigion:

  • Cadw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol mewn pump o gartrefi gofal presennol y Cyngor – Cwrt Clydach yn Nhrealaw, Tŷ Pentre, Tegfan yn Nhrecynon, Cae Glas yn y Ddraenen Wen a Pharc Newydd yn Nhonysguboriau.
  • Darparu llety newydd gyda 40 o fflatiau Gofal Ychwanegol ac 20 o welyau dementia preswyl yn Nhreorci – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru a’r bwrdd iechyd. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Ystrad Fychan. Mae'r cartref gofal ar gau dros dro heb unrhyw breswylwyr, a byddai'n cael ei ddadgomisiynu'n barhaol.
  • Darparu llety newydd gydag 20 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 10 gwely dementia preswyl yng Nglynrhedynog – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal presennol Ferndale House. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu.
  • Darparu llety newydd gyda 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 15 o welyau dementia preswyl yn Aberpennar – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal presennol Troed-y-rhiw. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu.
  • Llety wedi'i ailfodelu i ddarparu gofal i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys  – byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy ailddatblygu Cartref Gofal Garth Olwg. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd lleoliadau addas yn cael eu canfod ar gyfer ei breswylwyr, mewn cartref o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion asesedig.

Byddai adroddiad arall wedyn yn cael ei lunio i’r Cabinet ei ystyried yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn amlinellu’r adborth a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad a chanlyniad Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau bod nifer digonol o opsiynau gofal preswyl o safon i ddiwallu anghenion pobl hŷn. Er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid i ni adolygu ein cynnig yn barhaus ac ymateb i anghenion a disgwyliadau newidiol. Rydyn ni eisoes wedi ymrwymo i foderneiddio ein darpariaeth gofal preswyl, ac eisoes wedi sefydlu dau gynllun gofal ychwanegol o’r radd flaenaf sy’n boblogaidd iawn yn Aberaman a’r Graig.

“Mae naw cartref gofal y Cyngor yn cynnig gofal o ansawdd da iawn gan staff ymroddedig, ond cafodd y mwyafrif ohonyn nhw eu hadeiladu dros 40 mlynedd yn ôl a dydyn nhw ddim wedi’u dylunio i ddiwallu’r anghenion presennol. Mae cyfleusterau newydd fel Gofal Ychwanegol yn cael eu hadeiladu i fod yn ystyriol o ddementia gyda lleoedd mwy i gefnogi symudedd, yn ogystal â chyfleusterau en-suite - dydy'r rhain ddim ar gael gan lawer o'n cartrefi presennol.

“Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer y gwelyau dros ben yn ein cartrefi gofal – mae 184 o leoedd gwag ar hyn o bryd o gymharu â dim ond 8 yn 2016. Mae hon yn duedd genedlaethol, sydd wedi'i gwaethygu gan y pandemig, ac mae disgwyl i hyn barhau. Bellach mae llawer mwy o alw am leoliadau nyrsio ac arbenigol, yn ogystal â gofal cartref i bobl sy’n dymuno byw yn eu cartrefi eu hunain. Dydy peidio â chymryd camau wrth ymateb i'r holl ffactorau hyn ddim yn opsiwn, ac felly mae swyddogion wedi cyflwyno opsiwn a ffefrir gerbron y Cabinet i'w ystyried.

“Mae hyn yn cynnwys cadw pump o’n cartrefi gofal gwerthfawr, darparu tri chyfleuster Gofal Ychwanegol gyda gwelyau preswyl pwrpasol ar gyfer dementia yn Nhreorci, Glynrhedynog ac Aberpennar, a llety newydd ym Mhentre’r Eglwys ar gyfer pobl ag anableddau dysgu sy'n oedolion. Byddai'r Cyngor yn parhau yn y farchnad cartrefi gofal, a byddai mwy o ddewis i drigolion sy'n gallu byw'n annibynnol gyda chymorth, ac i'r rhai sydd angen darpariaeth arbenigol.

“Os bydd y Cabinet yn cytuno ar ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn rhoi cymorth i breswylwyr cartrefi gofal unigol a’u teuluoedd i ddeall y goblygiadau posibl iddyn nhw, ac i ymgysylltu â’r broses. Byddai staff hefyd yn ganolog i'r sgwrs, gan rannu eu profiadau a’u barn ar yr hyn sy'n cael ei gynnig.  Bydd y Cyngor yn mynd ati i wrando'n astud, gan ystyried yr holl adborth sy'n dod i law cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol yn y dyfodol.”

Mae'r Cyngor yn cynnal naw cartref gofal preswyl sy'n cynnig 267 o welyau, a dyma ydy yn un o'r darparwyr Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru. Mae nifer cynyddol o welyau wedi bod dros ben dros nifer o flynyddoedd – roedd 184 o welyau’n wag ym mis Tachwedd 2022, gan godi o dim ond 8 gwely gwag yn 2016. Mae llai nag 85% o'r gwelyau ym mhob cartref gofal ar draws y Cyngor a'r sector annibynnol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu defnyddio. Yn gyffredinol, mae 58% o welyau gofal preswyl y Cyngor yn cael eu defnyddio, ac mae gan draean o'i gartrefi gofal o leiaf un o bob dau wely'n wag.

Ym mis Gorffennaf 2022, cafodd Cartref Gofal Ystrad Fechan ei gau dros dro, a chafodd 10 gwely newydd eu darparu yng Nghartref Gofal Parc Newydd, er mwyn cefnogi rhyddhau pobl o’r ysbyty. Roedd y newidiadau yma mewn ymateb i gyfraddau deiliadaeth a phwysau uniongyrchol, gan sicrhau bod cymorth a gofal o ansawdd ar gael. O ganlyniad uniongyrchol, cynyddodd lefelau deiliadaeth yng nghartrefi gofal eraill y Cyngor wrth i'r preswylwyr a gafodd eu heffeithio gael cymorth i fanteisio ar ddarpariaeth amgen addas.

Os bydd y Cabinet yn cytuno ar yr opsiwn a ffefrir, bydd hyn yn golygu buddsoddiad gwerth dros £60 miliwn mewn cyfleusterau gofal preswyl.

Wedi ei bostio ar 22/11/2022