Skip to main content

Nofio Canol Gaeaf yn y Lido

Bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty ar agor ar ddydd Sadwrn, 9fed Rhagfyr, ar gyfer Nofio Canol Gaeaf er budd elusen ddigartrefedd genedlaethol Crisis yng Nghymru. 

Hoffem annog codwyr arian i neidio i mewn (mewn gwisg ffansi, os dyna'u dymuniad) i godi arian hanfodol er mwyn cynorthwyo rhoi terfyn ar ddigartrefedd unwaith ac am byth.  

Achlysur preifat yw hyn, yn cael ei gynnal gan elusen ddigartrefedd gofrestredig Crisis. Cafodd hon ei sefydlu 50 o flynyddoedd yn ôl, ym 1967, fel ymateb i'r argyfwng digartrefedd cynyddol. 

Ers i'r elusen gael ei ffurfio, mae hi wedi cynorthwyo miloedd o bobl i ddianc rhag digartrefedd, ac mae'n dal i ymgyrchu dros newid. 

"Mae'r Cyngor wrth eu bodd yn cael croesawu Nofio Canol Gaeaf Crisis yng Nghymru yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden. 

"Profiad ofnadwy yw digartrefedd, sy'n dinistrio iechyd a llesiant person. Misoedd y gaeaf yw amser mwyaf peryglus y flwyddyn i'r rheiny a effeithir, yn sgîl y tymereddau ac amodau tywydd garw. 

"Os oes modd i chi gynorthwyo'r achlysur yma, gobeithio y gwnewch hynny.  Bydd yn codi arian hanfodol i achos teilwng iawn." 

Cynhelir Nofio Canol Gaeaf Crisis yng Nghymru yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, am 10.00yb ar ddydd Sadwrn, 9fed Rhagfyr. Bydd y ffi gofrestru £10 yn mynd at gynorthwyo rhywun i gymryd y camau cyntaf allan o ddigartrefedd gyda chymorth Crisis yng Nghymru. 

Ar ben hynny, rydym ni'n annog y rheiny sy'n cymryd rhan i berswadio cyfeillion a theulu i noddi'u her Canol Gaeaf. 

Hoffech chi gofrestru er mwyn cymryd rhan yn Nofio Canol Gaeaf yn Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd, ar Ddydd Sadwrn, 9fed Rhagfyr? Croeso i chi ymweld ag www.crisis.org.uk/swimpontypridd 

#NofioCanolGaeaf

 

Wedi ei bostio ar 29/11/17