Skip to main content

Ysgol Gyfun Treorci

 
Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi'i hailddatblygu a'i hadnewyddu ar draws sawl cam o waith, gan ganiatáu i staff a disgyblion elwa o gyfleusterau newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cafodd cam cyntaf y gwaith ei gwblhau cyn y flwyddyn academaidd 2018/19, gan ddarparu ardal chweched dosbarth newydd sbon, llyfrgell, Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd, bloc gwyddoniaeth tri llawr newydd sbon, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd seminar wedi'u hadnewyddu, siop goffi newydd a chyfleusterau bwyta.

Yn dilyn hyn, cafodd adeilad oedd yn bodoli eisoes ei adnewyddu'n llwyr ym mis Mehefin 2020, i ddarparu lle ar gyfer adran gerdd newydd, ystafelloedd dosbarth cyffredinol, ystafell ffitrwydd a thai bach. 

Ail gam y gwaith wedi'i gwblhau - Mehefin 2020