Skip to main content

Ysgol 3-16 oed y Ddraenen Wen

 

Bydd y prosiect yma'n cynnwys ysgol 3-16 oed, gan ddarparu cyfleusterau newydd a chyffrous i staff a disgyblion ar safle presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei darparu gan y Cyngor mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn rhan o fuddsoddiad sylweddol ehangach ar gyfer ardal Pontypridd (£75.6 miliwn).

Mae'r prosiect yn cynnwys dymchwel rhai adeiladau ar safleoedd yr ysgolion presennol a chodi adeiladau carbon sero-net newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Hawthorn

Bydd adeiladau eraill yn cael eu hadnewyddu a bydd y cynllun hefyd yn cynnwys maes parcio newydd i staff, maes parcio ar gyfer bysiau a man gollwng/casglu disgyblion.

Dechreuodd y broses Ymgynghori Cyn Ymgeisio ym mis Chwefror 2022, felly mae croeso i drigolion ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar y cynlluniau. Bydd cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei drafod yn ffurfiol gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu maes o law.

Byddai'r ysgol newydd yn croesawu disgyblion presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen a disgyblion ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn 2024.