Skip to main content

Syniadau Cyfeillgar i'r Hinsawdd o ran Siopa a Phrynu Pethau

Ar hyn o bryd, mae siopa'n lleol, y ffordd rydyn ni'n prynu pethau a'r hyn rydyn ni'n ei wneud â'r pethau dydyn ni ddim eu hangen bellach, erioed wedi bod mor bwysig. Mae modd i'r ffordd rydyn ni'n siopa a'r ffordd rydyn ni'n cadw trefn ar ein 'pethau' helpu pobl eraill yn Rhondda Cynon Taf yn ystod yr argyfwng costau byw, ac ar yr un pryd gwella ein hôl troed carbon ein hunain.

Mae busnesau lleol yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio cyflenwyr lleol nag archfarchnadoedd mawr neu gewri'r siopau manwerthu. Mae cadwyni cyflenwi byd-eang yn niweidio'r amgylchedd oherwydd yr allyriadau tanwydd ffosil sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a storio cadwyn oer. Mae hefyd yn lleihau'r posibilrwydd o golli bwyd ar hyd y ffordd. Trwy brynu'n lleol, gallwch chi helpu i leihau allyriadau carbon a llygredd aer.

Newid Arferion Cyflenwi

Rydyn ni i gyd yn siopa mwy ar-lein nag oedden ni'n arfer gwneud. Er ei fod yn gyfleus, mae hefyd yn golygu bod llawer mwy o gerbydau dosbarthu ar ein ffyrdd sy'n achosi traffig, llygredd aer ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Bob blwyddyn mae miliynau o bobl yn methu'r amser mae eu parseli'n cyrraedd. Mae hynny'n golygu llawer o deithiau diangen sy'n llygru'r amgylchedd. Meddyliwch am gasglu'ch parsel eich hun o fan canolog cyfleus fel siop neu locer, neu beth am fwndelu'ch eitemau gyda'i gilydd?

Os yw’n bosibl, ceisiwch osgoi gorfod dychwelyd eich eitemau. Trwy ddychwelyd eich eitemau, mae'n bosibl bod mwy o deithiau'n cael eu gwneud mewn cerbyd. Yn ogystal â hynny, efallai bydd hi'n anodd ailwerthu'r eitemau rydych chi wedi'u dychwelyd ac efallai byddan nhw hyd yn oed yn mynd i safleoedd tirlenwi! Gwiriwch eich maint neu gwnewch ymdrech i gefnogi'ch stryd fawr leol lle mae modd trio dillad ymlaen yn gyntaf. 

Cynllunio Craff Siopa Craff

Mae modd i chi arbed bwyd, amser ac arian trwy gynllunio'ch rhestr siopa yn seiliedig ar gynllunydd prydau syml. Gwiriwch eich oergell a'ch cypyrddau yn gyntaf cyn i chi ddechrau ysgrifennu eich rhestr siopa. Wrth siopa, ceisiwch brynu bwyd rydych chi'n meddwl fydd yn cael ei fwyta yn unig, neu fwyd y mae modd ei rewi a'i storio yn nes ymlaen.

Gall prynu eitemau unigol (lle bo'n bosibl) ei gwneud hi'n haws prynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi.           

Caru Dillad

Bydd prynu llai o ddillad o ansawdd gwell rydych chi'n dwlu arnyn nhw ac yn eu gwisgo'n hirach yn arbed arian i chi ac yn lleihau'r effaith rydych chi'n ei chael ar yr amgylchedd. Mae modd i chi wneud i'ch dillad bara'n hirach trwy eu golchi'n ofalus a gwneud mân atgyweiriadau. Gwnewch addewid i wisgo dillad sy'n para.

Pan fyddwch chi wedi gorffen â dilledyn sydd dal â digon o fywyd ar ôl ynddo fe, ewch ag ef i siop elusen neu i achlysur cyfnewid dillad.

Dewis Cyntaf Dewis Ail-law

Os ydych chi'n ystyried prynu unrhyw ddodrefn, dillad, tŵls, offer gemau cyfrifiadur, offer cartref (mae'r rhestr yn hirfaith...), beth am ystyried eitemau ail-law? Yn amlach na pheidio mae'r eitemau llawer yn rhatach na rhai newydd a'r ansawdd mwy neu lai'r un peth. Os ydych chi'n siopa ar-lein mae lleoedd fel Gumtree, Facebook Marketplace, eBay, Amazon Marketplace, Vinted a Depop yn lleoedd da iawn i ddechrau dod o hyd i'r holl bethau rydych chi eu hangen.

Neu well byth, os ydych chi'n hoffi mynd i siop go iawn i wneud eich siopa, a gweld eitemau cyn i chi eu prynu nhw, mae digonedd o siopau ail law gwych yma yn Rhondda Cynon Taf megis TooGoodToWaste, ReGenerate, 2nd Hand Furniture Company, a Siopau Ailddefnyddio 'The Shed' yn Aberdâr, Treherbert a Llantrisant, heb sôn am yr holl siopau elusen rydyn ni'n ffodus iawn i'w cael yn y fwrdeistref sirol.

Mae hefyd yn bwysig benthyca lle bo'n bosibl. Yn hytrach na chynhyrchu mwy o wastraff trwy gael gwared ar eitemau diangen, rhowch nhw i bobl eraill. Fel dewis arall, mae gweddnewid a chrefftau'r cartref yn ffyrdd gwych o ailwampio ac ailddefnyddio eich hen bethau.   

Siopa'n Lleol

Busnesau lleol yw asgwrn cefn ein heconomi; maen nhw'n dod â bywyd i'n strydoedd mawr yma yn Rhondda Cynon Taf ac yn aml yn denu llawer o ymwelwyr. Mae siopa mewn busnesau lleol, yn hytrach na chadwyn fawr, yn well i economi eich cymuned.

Y tro nesaf byddwch chi'n mynd siopa, gofynnwch i chi'ch hun - a fyddai modd nôl yr hyn rydw i ei angen o fy nghigydd, siop ffrwythau a llysiau a fy siop ail-lenwi leol? Hyd yn oed os ydych chi'n gwneud ychydig o siopa mewn busnes lleol a'r gweddill mewn archfarchnad - mae hynny'n dal i wneud gwahaniaeth enfawr!

Climate-change-banner