Skip to main content

Ein Hôl Troed Carbon

Os ydyn ni eisiau i Rondda Cynon Taf fod yn garbon niwtral, yna un o'r pethau y mae angen i ni wybod yw faint o nwyon tŷ gwydr rydyn ni, fel y Cyngor, yn gyfrifol amdano.

Darllenwch yma am wybodaeth am Ôl troed Carbon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2022/23. Mae modd dod i hyd i gyfrifiadau ôl troed carbon blaenorol y Cyngor yma

Mae'r Cyngor hefyd wedi datblygu Cynllun Datgarboneiddio 2023-25 sy'n nodi llwybr clir ac amserlenni diffiniedig ar gyfer dod yn gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030.

Amcangyfrifwyd mai cyfanswm yr allyriadau carbon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 yw 96,639.83 tunnell o allyriadau CO₂ (carbon deuocsid). Mae modd i chi weld sut rydyn ni'n categoreiddio a chymharu ein hallyriadau carbon yn y tabl isod:

Sample Table
Categori AllyriadTunelli o CO2e 2019/20 (Blwyddyn Sylfaenol)Tunelli o CO2e 2021/22Tunelli o CO₂e 2022/23% Newid o'r Flwyddyn Sylfaenol% Newid o'r Flwyddyn Flaenorol 2021/22
Cadwyn gyflenwi 86,728.59 81,676.97 62,733.6 -27.67% -23.19%

Nwy Naturiol

13,590.39 14,346.6 13,240.13 -2.58% -7.11%

Trydan

7,775.94 8,271.97 6,544.31 -5.53% -11.76%

Gwastraff

4,444.99 4,842.35 1,822.27 -59.62% -37.37%

Goleuadau Stryd

848.62 855.38 741.39 -12.64% -13.33%
Cerbydau ac Offer 3,750.39 6,007.51 5,866.66 56.43% -2.34%

Dŵr

243.51 112.01 128.24 -47.34% 14.49%
Tanwyddau eraill (LPG) 9.38 87.68 103.6 1,004.44% 18.15%
Teithio Staff a Gweithio Gartref  N/A 5,562.37 5,454.05 N/A -1.95%
Nwyon Offer Oeri N/A N/A 5.58 N/A N/A

Cyfanswm:

116,543.2 120,907.4 96,639.83  -17.1% -18.77%

Ein gwaith

Mae'r Cyngor yn rhoi'r newid yn yr hinsawdd wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni hefyd eisiau gwneud ein rhan i amddiffyn y blaned a'n Bwrdeistref Sirol rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd, heddiw ac yn y dyfodol. Ein nod yw bod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030. 

Dyma ychydig o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn:  

  • Buddsoddi £10,580,718 ers 2009 mewn Prosiectau Lleihau Carbon, megis uwchraddio systemau goleuo a gosod paneli solar, gan arbed tua 5,800tCO2e o garbon.
  • Prynu 100% o'n cyflenwad ynni trydanol gan ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Newid pob golau stryd yn Rhondda Cynon Taf (mae oddeutu 29,700 ohonyn nhw) i LED neu gyfwerth sydd wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio ers 2015/16.
  • Defnyddio ynni gwres o Ffynnon Dwym Ffynnon Taf yn lle'r system gwresogi trydan yn adeilad y Pafiliwn gan arbed 2 dunnell o CO2e y flwyddyn a 20,380 kWh y flwyddyn o drydan.
  • Defnyddio ynni gwres o Ffynnon Dwym Ffynnon Taf gan ei gyfuno â'r system wresogi presennol yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, gan arbed 15 tunnell o CO2e y flwyddyn a 152,705 kWh y flwyddyn o nwy.
  • Cyfanswm o 6 siop ailddefnyddio yn Llantrisant, Treherbert, Treorci, Ynyshir a 2 siop yn Aberdâr. Mewn partneriaeth â Wastesavers a TooGoodTooWaste*.
  • Gosod 21 o gelloedd Tanwydd Hydrogen mewn canolfannau hamdden, ysgolion a swyddfeydd.
  • Gosod 134 casgliad o baneli solar ar gyfer ysgolion ac adeiladau corfforaethol
  • Gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn dros 33 o leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol. Dewch o hyd i fan gwefru sy'n agos i chi, yma.
  • Trosi 22 o gerbydau injan hylosgi Fflyd y Cyngor yn Gerbydau Allyriadau Isel Iawn fel rhan o’r Cynllun Pontio Fflyd parhaus, gan leihau’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â gweithrediadau’r Cyngor.
  • Cael gwared ar 50 o gerbydau injan hylosgi o weithrediadau Fflyd y Cyngor, gan arwain at arbedion ariannol a charbon.
  • Plannu 600 o goed a 600 o lasbrennau gwrychoedd yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.
  • Sefydlu 53 o brosiectau cymorth bwyd cymunedol ledled y Fwrdeistref Sirol gan ailddosbarthu bwyd sy'n weddill.

Dyma ychydig o'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd:

  • Cynnal adolygiad o adeiladau Swyddfeydd y Cyngor i nodi cyfleoedd arbed ynni a chau adeiladau sydd ddim yn cael eu defnyddio i wneud arbedion ynni.
  • Datblygu Strategaeth Datgarboneiddio a Chynllun Gweithredu i ysgogi cynnydd o ran lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â gweithrediadau’r Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
  • Datblygu dangosfwrdd mewnol i fonitro allyriadau carbon.
  • Gweithio gyda'r trydydd sector i fapio prosiectau yn y gymuned a chyfleoedd gwirfoddoli ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Arbed 41 tunnell o CO2e y flwyddyn a chynhyrchu 196,002 kWh y flwyddyn o drydan ym Mharc Gwledig Cwm Dâr
  • Arbed 10,992 tunnell o CO2e y flwyddyn a chynhyrchu 1,284,706 kWh y flwyddyn o drydan yng Nghored Trefforest.

Ychydig o'r gwaith rydyn ni'n bwriadu ei wneud:

  • Ymgymryd â'r rhaglen plannu coed mwyaf mewn cenhedlaeth. Plannu 5,000 o goed a 20,000 o wrychoedd yn rhagor dros y blynyddoedd sydd i ddod, gyda £100,000 wedi'i ymrwymo i blannu coed.
  • Agor pimp ysgol di-garbon erbyn 2024
  • Erbyn 2030, bydd pob datblygiad tai newydd yn garbon niwtral. Ein huchelgais yw y bydd pob datblygiad tai newydd yn Rhondda Cynon Taf yn garbon niwtral o 2026 ymlaen.
  • Datblygu darpariaeth mannau gwefru cerbydau trydan yn barhaus, a hynny er mwyn sicrhau erbyn 2030, y bydd 90% o drigolion sydd ddim â man gwefru cerbydau trydan yn eu cartref o fewn milltir i bwynt gwefru cerbydau trydan sy'n hygyrch i'r cyhoedd
  • Gwella ein bioamrywiaeth, lleihau ein hallyriadau carbon a pherygl llifogydd drwy adnewyddu mawndiroedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yng Nghwmparc
  • Datblygu Fferm Solar 6.5MW ar hen domen gwastraff pyllau glo 84 erw yng Nghoed Elái, gan ddod i gyfanswm o 10,992 o baneli solar a 56 gwrthdröydd .
  • 30 o gynlluniau trydan dŵr pen uchel pellach ledled y Fwrdeistref Sirol ar ôl cynnal ymchwiliad pellach.

 Pa mor fawr yw eich ôl troed Carbon chi?

Mae eich ôl troed carbon yn mesur faint rydych chi'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd. Po fwyaf yw eich ôl troed, y mwyaf fydd eich effaith ar y blaned trwy'r nwyon sy'n cynhesu'r blaned rydych chi'n eu hallyrru i'n hatmosffer.

Ydych chi'n gwybod beth yw eich ôl troed carbon chi? Sut mae eich ôl troed carbon yn cymharu â dinesydd cyffredin y DU neu'r byd? Cymerwch gwis yr WWF i gyfrifo eich ôl troed carbon.

Climate-change-banner