Skip to main content

Sgwash 'Jerk' wedi'i Rostio gyda Reis Caribïaidd

 

(Dewis llysieuol gwych gydag ychydig o sbeis)

Digon i 4 person

1 sgwash (wedi'i orchuddio â phast 'Jerk' a'i rostio)

1 tun o domatos (wedi'u dorri)

1 winwnsyn wedi'i dorri

2 ewin garlleg (wedi'u malu)

1 pupur coch (wedi'i sleisio)

1 pupur melyn (wedi'i sleisio)

1 llwy de o goriander ffres (wedi'i dorri)

2 shibwnsyn (wedi'u deisio)

1 llwy fwrdd o bast 'Jerk'

Joch o sudd leim

1 llwy de o fêl

1 llwy de o olew blodyn yr haul

Dull

Cynheswch yr olew mewn padell fawr ac ychwanegwch y winwns, garlleg ac ychydig o'r past 'Jerk' a ffriwch y rhain am ychydig funudau. Cyn i'r cymysgedd frownio, ychwanegwch y pupurau, y sudd leim, y mêl a choginiwch y cymysgedd am 2 funud arall. Ychwanegwch y tomatos tun a choginiwch bopeth am 10 munud. Arllwyswch y cymysgedd yma dros y sgwash wedi'i rostio a gweinwch gyda'r shibwns a'r coriander ffres.

Past 'Jerk'

Rhowch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd neu brosesydd bwyd a'u cymysgu i wneud past llyfn. Bydd y past yn aros yn ffres am bythefnos os yw'n cael ei orchuddio a'i oeri.

Rice Caribïaidd

8 owns o reis grawn hir sy'n coginio'n gyflym

2 owns o goconyt hufennog

1 winwnsyn wedi'i dorri

Pinsiad o deim

Un ciwb o stoc cyw iâr

2 beint o ddŵr

Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban a mudferwch y cymysgedd am tua 15 munud nes bod y reis yn feddal.