Skip to main content

Gwybodaeth i Ymwelwyr

 

Cyfleusterau ar y safle – Mae Parc Coffa Ynysangharad yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty a Chwarae'r Lido – y man chwarae antur am ddim. Mae'r Parc hefyd yn cynnwys Caffi Lido, safle seindorf prydferth, cyfleusterau golff a thoiledau i'r cyhoedd.

Cyfleusterau oddi ar y safle – Peiriannau arian parod, tafarndai, bwytai, marchnad dan do a chanolfan siopa (o fewn 10 munud o'r parc).

Cyfleusterau i'r anabl – Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal mewn parc cyhoeddus, felly, mae ar agor i bawb yn ystod ei oriau agor. Mae yna lwybr tarmac o amgylch y parc. Bydd nifer o'r atyniadau sydd yna yn rhan o'r achlysur wedi'u lleoli ar y cae gan fod yno ddigon o le. Mae tir y cae yn anwastad, ac felly dyw e ddim yn llwyr hygyrch i gwsmeriaid anabl.

Lle mae'n bosibl, mae Carfan Achlysuron Cyngor RhCT yn ceisio datrys y problemau yma drwy ddefnyddio'r parc cyfan er mwyn sicrhau bod modd defnyddio/gweld/clywed y mwyafrif o'r atyniadau. Serch hynny, rhaid nodi dydy hyn ddim yn bosibl ar gyfer pob un o'r atyniadau sydd yn digwydd yn yr achlysur.

Cerdded cŵn – Mae hawl i gŵn fod yn y parc, ond rhaid iddyn nhw fod ar dennyn yn yr ardaloedd lle caiff yr achlysur ei gynnal.

Hysbysiad yr Ŵyl – Does dim hawl dod ag unrhyw un o'r eitemau canlynol i'r parc: pennau laser, tân gwyllt, alcohol, unrhyw arf gan gynnwys gwrthrychau miniog, sylweddau anghyfreithlon. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr, ac mae gan staff diogelwch yr hawl i wrthod eitemau, maen nhw'n ystyried eu bod nhw'n anniogel, rhag dod ar y safle.

Achlysur dim goddefgarwch o alcohol yw Gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru. Caiff archwiliadau diogelwch ar hap eu cynnal ar y rheiny sy'n dod i mewn i'r Parc, a byddwn ni'n cadw llygad barcud drwy'r dydd. Os bydd staff diogelwch yr achlysur, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu unrhyw staff yr heddlu sy'n bresennol yn dod o hyd i unrhyw un o'r eitemau yma, byddan nhw'n cael eu hatafaelu. Os ydych chi'n gwrthod, byddwch chi'n cael eich anfon o'r achlysur.

Bydd ffotograffydd swyddogol y Cyngor ar y safle drwy gydol y dydd yn tynnu lluniau. Efallai y bydd y lluniau yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol neu'n cael eu defnyddio at ddefnydd marchnata er mwyn hyrwyddo'r achlysur.