Skip to main content

Pwdin Gellyg a Siocled

 

Topin Siocled Crensiog

4 owns o bowdr coco

1 pwys o flawd

4 owns  o gnau wedi'u torri

4 owns o geirch mawr

8 owns o fenyn

4 owns o siwgr brown meddal Muscavado

Hidlwch y powdr coco a'r blawd â'i gilydd, yna rhwbiwch â'r menyn i greu cymysgedd fel tywod. Ychwanegwch y siwgr, y cnau a'r ceirch, ac yn olaf ychwanegwch binsiad o halen. Pobwch am 30-40 munud ar dymheredd o 200°C nes bod y cymysgedd wedi'i goginio'n llwyr. Cadwch lygad arno a'i droi'n rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod wedi'i goginio llwyr ac yn grensiog. Gadewch y cymysgedd i oeri.

Gellyg wedi'u Potsio

  • 750g o siwgr mân euraidd
  • 1 ffon cinnamon /coed anis/clofs
  • 1 lemwn wedi torri yn ei hanner
  • 1 oren wedi torri yn ei hanner
  • 1 pod fanila, wedi'i rannu
  • 6 gellygen aeddfed wedi'u plicio

Dull

  • Mewn sosban sy'n ddigon mawr i ddal y gellyg yn dynn, rhowch yr holl gynhwysion i mewn heblaw'r gellyg.
  • Llenwch hanner y sosban â dŵr a'i dwyn i'r berw ac yna mudferwch y cymysgedd am 20 munud i sicrhau bod y sbeisys wedi trwytho'r cyfan.
  • Ychwanegwch y gellyg i'r sosban, gorchuddiwch y cyfan a'i botsio'n ysgafn am tua 30 munud nes bod y gellyg yn feddal.
  • Trowch y gwres i ffwrdd a rhoi'r cymysgedd i'r naill ochr. Mae modd potsio'r gellyg hyd at 2 ddiwrnod ymlaen llaw a'u cadw yn yr hylif potsio yn yr oergell.

I orffen

  • Deisiwch y gellyg
  • Cymysgwch 6 llwy fwrdd o fromage frais gyda hanner peint o hufen dwbl trwchus
  • Rhowch haenau o'r topin siocled, y gellyg a'r hufen mewn gwydr tal
  • Defnyddiwch blisg oren a chnau fel garnais
  • Addurnwch â phowdr coco