Skip to main content

Gŵyl Aberdâr

 

Mae rhai yn cyfeirio at Barc Aberdâr yn drysor Aberdâr a dydy hi ddim yn anodd deall pam. 

Mae'r parc cyhoeddus Fictoraidd prydferth yma yn dathlu ei ben-blwydd yn 150 eleni ac mae sawl rheswm i ymweld â fe.  Yn ogystal â'r llyn cychod, lawntiau bowls, cyrtiau tennis a'r man chwarae i blant, mae meini'r Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1956 yn dal i sefyll, ynghyd â'r ffynnon haearn bwrw gywrain – un o dair ffynnon o'r fath yn y wlad. Cafodd hi ei hadeiladu i ddathlu Coroniad Brenin Sior V. Yn yr haf, mae bandiau lleol yn chwarae ar y safle seindorf.

 Dewch i'r parc yn ystod mis Gorffennaf os ydych chi eisiau chwa o adrenalin a gwylio Rasys Ffordd Parc Aberdâr. Synnwch wrth iddyn nhw rasio o gwmpas cylchffordd Rasys Ffordd Cenedlaethol.

Bydd cost ychwanegol ar gyfer rhai gweithgareddau ar y safle.