Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwella ei gasgliadau gwastraff gwyrdd/o'r ardd trwy gyflwyno sach NEWYDD mae modd ei hailddefnyddio i gasglu'ch holl wastraff gwyrdd/o'r ardd  o randiroedd sy'n cael eu cynnal gan gymdeithasau.

Mae angen i randiroedd gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd/o'r ardd gan y Cyngor a byddan nhw'n cael DWY sach werdd AM DDIM.

Bydd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn sicrhau bydd y carfanau yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol a gwneud y gwasanaeth yn gwbl awtomataidd gan leihau ein hôl troed carbon trwy osgoi teithiau di-angen.  

Bydd cyflwyno'r sachau gwyrdd cynaliadwy, newydd y mae modd eu hailddefnyddio yn golygu y bydd y Cyngor yn lleihau ei ddefnydd o blastig yn gyffredinol ac yn sicrhau bod y cynnyrch gwastraff gwyrdd terfynol mor bur â phosibl. Bydd hyn yn creu compost gradd uwch a fydd yn arwain at economi wirioneddol gylchol yn y dyfodol.

 

leaf

Cofrestru a rheoli casgliadau a sachau gwastraff gwyrdd eich rhandir.

Waste-Lorry
Dysgu rhagor ynglŷn â'r hyn y mae modd ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd.
Recycling
Atebion i'ch cwestiynau casglu gwastraff gwyrdd.
Recycling-Bag
Archebu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd ar gyfer eich rhandir ar-lein.