Skip to main content

Gwastraff Gwyrdd Rhandiroedd - Cwestiynau Cyffredin

Gweld cwestiynau cyffredin;

C. Pam mae'r Cyngor yn gweithredu'r newid?

Mae'r Cyngor yn ceisio lleihau nifer y bagiau plastig y mae'n eu defnyddio wrth gasglu gwastraff ledled y fwrdeistref.

Mae adborth gan ddarparwyr gwasanaeth yn dangos bod modd gwneud y prosesau o gompostio gwastraff gwyrdd yn fwy effeithlon trwy gael gwared ar y bagiau plastig a byddan nhw'n cynhyrchu cyfaint uwch o gompost o ansawdd.

C. Pam bod angen i randiroedd gofrestru?

Rydyn ni bellach yn ei gwneud yn ofynnol i randiroedd gofrestru er mwyn ein galluogi ni i reoli'r casgliadau'n fwy effeithlon, gwella ein ffordd o gyfathrebu â chymdeithasau ac osgoi colli unrhyw gasgliadau.

C. Dydw i ddim yn defnyddio'r gwasanaeth yn y gaeaf, ond bydd ei angen arna i yn y gwanwyn/yr haf.

Mae modd i chi benderfynu pryd i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Sylwch: Os byddwch chi'n methu â rhoi eitemau allan ar gyfer 12 casgliad yn olynol (sef oddeutu 29 wythnos yn y gaeaf a 12 wythnos yn yr haf), mae'n bosibl y cewch chi eich tynnu o'r rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto. 

C. Fydd unrhyw newidiadau i'r diwrnod caiff fy ngwastraff gwyrdd ei gasglu?

  • Fydd eich diwrnod ailgylchu gwastraff gwyrdd ddim yn newid, oni eich bod chi'n cael gwybod yn benodol fel arall (e.e. ffermydd ac ati).
  • Bydd casgliadau yn wythnosol yn ystod misoedd yr haf yn unol â'ch diwrnod casglu gwastraff i’w ailgylchu, oni bai eich bod chi'n cael gwybod yn benodol fel arall (e.e. ffermydd ac ati).
  • yn ystod y gaeaf, bydd eich casgliadau bob pythefnos yn unol â threfn eich diwrnodau casglu bagiau du/biniau, oni eich bod chi'n cael gwybod yn benodol fel arall (e.e. ffermydd ac ati).

Gwirio eich diwrnod casglu

Nodwch: Mae'n bosibl i gasgliadau gwastraff gwyrdd newid ac mae modd eu hatal dros gyfnod y Nadolig. Gwiriwch y wefan yma a'n cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.


Size comparison between Green Sack and Clear Recycling bagC. Sut mae'r sachau'n edrych? /Faint o wastraff y mae modd ei roi yn y sachau?

Sach werdd sy’n dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm) – Mae'r sachau yn cyfateb i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Mae gyda'r sachau ddolen/strap ar y top yn ogystal â strap ar yr ochr ac oddi tanyn nhw.

Mae plastig wedi'i drymhau ar waelod y sach.

CYNGOR CRAFF: Mae modd plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd. 

C. Sut rydw i'n cael fy 2 sach am ddim neu sachau ychwanegol?

Mae modd i chi gofrestru ac archebu eich 2 sach gwastraff gwyrdd am ddim ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001. 

Yn yr un modd, mae modd archebu sachau ychwanegol ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar y rhif uchod.

C. Beth fydd yn digwydd os dydw i ddim yn cofrestru?

Os dydych chi ddim wedi cofrestru'ch eiddo ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, fyddwn ni ddim yn casglu'ch gwastraff gwyrdd.

  • Cofrestrwch yma ar gyfer y Cynllun Casglu Gwastraff Gwyrdd

C. Oes terfyn ar nifer y sachau gwastraff gwyrdd mae modd i fi eu rhoi allan?

Does dim terfyn ar nifer y sachau gwastraff gwyrdd sy wedi’u cofrestru y byddwn ni'n eu casglu. Serch hynny, rydyn ni'n gofyn yn gwrtais am 24 awr o rybudd os ydych chi'n rhoi dros 10 o sachau allan, er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau'n cael eu dyrannu. Mae modd gwneud hyn trwy e-bostio Ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

C. Oes modd i fi barhau i ddefnyddio bagiau ailgylchu clir?

Nac oes, a fyddan nhw ddim yn cael eu casglu os byddan nhw'n cael eu rhoi y tu mewn i'r sachau gwyrdd.

C. Oes modd i fi gael gwared ar fy ngwastraff gwyrdd yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned?

Mae modd cael gwared ar wastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned (bydd angen cael gwared ar fagiau plastig, blychau ac ati ar wahân).

C. Beth fydd yn digwydd os caiff y sachau eu difrodi ar ddamwain gan y criwiau casglu?

Mae modd i drigolion roi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn trwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein

C. Fydd sachau sydd ar goll yn cael eu hamnewid?

Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau sydd ar goll. Mae croeso i randiroedd nodi rhifau tai ac ati ar eu sachau a byddwn ni'n dychwelyd y sachau i'r man casglu biniau pan fyddan nhw'n wag. 

C. Fydd sachau sydd wedi'u treulio yn cael eu hamnewid?

Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u treulio.

C. Beth mae'r £3 ar gyfer sachau ychwanegol/newydd yn ei gynnwys?

Mae'r £3 yn talu am gost y sach yn unig.  Mae'r sach yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor RhCT.  Does dim modd ad-dalu’r gost yma.

C. Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn mynd â'm sachau?

Caiff pob sach ei chofrestru i randiroedd. Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw sachau ychwanegol sydd heb eu cofrestru gyda ni. Fyddwn ni ddim yn casglu o randiroedd sydd ddim wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.

Ein cyngor i randiroedd yw labelu eu bagiau.

C. Fydd fy sachau yn cael eu dychwelyd? 

Bydd pob criw casglu, lle bydd modd, yn dychwelyd y sachau mor agos a diogel â phosibl er mwyn lleihau nifer y sachau sy'n mynd ar goll/sy'n cael eu dwyn.

C. Sut mae rhoi gwybod i'r Cyngor nad oes angen gwasanaeth gwastraff gwyrdd arna i mwyach?

Cwblhewch y ffurflen Canslo Gwastraff Gwyrdd ar-lein os nad oes angen casgliadau gwastraff gwyrdd arnoch mwyach.

C. Ga i orlenwi'r sachau?

Na chewch. Dylai cynnwys y sach, gan gynnwys unrhyw ganghennau, gael eu dal yng nghorff y sach.

CYNGOR CRAFF: Mae'n bosibl plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd. 

C. Fyddwch chi'n casglu gwastraff cytiau anifeiliaid?

Byddwn, cyn belled nad yw'r gwastraff wedi'i halogi ag eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn.

C. Fyddwch chi'n casglu blodau a brynwyd mewn siop?

Byddwn, cyhyd â bod yr holl blastig, rhubanau ac ati yn cael eu tynnu.

C. Fyddwch chi'n derbyn blociau mwd ('clodges')?

Na fyddwn, bydd angen i chi gael gwared ar y rhain yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Fydd sachau gwastraff gwyrdd ddim yn cael eu casglu os ydyn nhw'n cynnwys blociau mwd.

C. Fydd coed Nadolig yn cael eu hailgylchu trwy ddefnyddio'r sachau newydd?

Na fyddan. Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu trwy system archebu ar wahân sydd fel arfer ar gael drwy gydol mis Ionawr.

C. Pa ddeunyddiau fyddwch chi ddim yn eu casglu?

Fydd y gwasanaeth gwastraff gwyrdd ddim yn derbyn eitemau fel gwastraff cegin, gwastraff cyffredinol, pridd, blociau mwd, rwbel, rhywogaethau ymledol, e.e. canclwm, pren, boncyffion (6" a mwy mewn diamedr) neu addurniadau/teganau'r ardd ac ati.

C. Fyddwch chi'n casglu sachau gwastraff gwyrdd a brynwyd o siop/siop ar-lein?

Na fyddwn. Byddwn ni ond yn casglu sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan y Cyngor.