Skip to main content

Tirweddau Byw

Nod y Prosiect Tirweddau Byw yw dwyn ynghyd rwydwaith o safleoedd sy'n gyfoethog o ran bioamrywiaeth ac sy'n cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy ledled Rhondda Cynon Taf. Mae gan Gymoedd De Cymru amrywiaeth enfawr o rywogaethau a chynefinoedd sy'n agos at ble mae pobl yn byw. Mae'r safleoedd yn y Prosiect Tirweddau Byw yn fannau poblogaidd o ran byd natur ac maen nhw'n creu camau ar gyfer bioamrywiaeth, yn ogystal â bod yn fannau y mae modd i chi ymweld â nhw, mwynhau a phrofi byd natur ar garreg eich drws.

Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn cynnwys 44 o safleoedd ledled Rhondda Cynon Taf. Ar gyfer pob un o'r safleoedd yma, rheoli er mwyn gwarchod natur a sicrhau mwynhad y cyhoedd yw'r canolbwynt allweddol. Mae'r safleoedd yn amrywio o fynwentydd a dolydd parc i goetiroedd a glaswelltir sy’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae gan bob un ohonyn nhw rywbeth pwysig i’w gyfrannu at y rhwydwaith a helpu ein bywyd gwyllt i symud drwy'r dirwedd.

Pan fyddwch chi'n ymweld â safle Tirweddau Byw, cadwch lygad allan am ein byrddau dehongli. Byddan nhw'n dweud rhagor wrthoch chi am y safle, y rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd yno, yn ogystal â'r hyn y mae modd i chi ei weld ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

Cliciwch ar ein map i ddod o hyd i'ch safle Tirweddau Byw agosaf.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect ewch i wefan Prosiect Tirweddau Byw neu e-bostiwch Bioamrywiaeth@rctcbc.gov.uk