Skip to main content

Bywyd Gwyllt a Phlanhigion

Mae ein bryniau, ein dolydd a'n coetiroedd yn llawn bywyd gwyllt a phlanhigion a blodau rhyfeddol. Mae'r amrywiaeth sylweddol yn ein tirweddau naturiol a'n cyfoeth o hanes glofaol wedi cyfrannu at ddarparu'r cynefinoedd perffaith ar gyfer ystod o rywogaethau. O'r pathew tawedog i'r fritheg werdd, y clychau'r gog godidog i garpedi cennau Cladonia, mae rhywbeth anhygoel i'w weld neu i'w ddarganfod o hyd

Gall helpu natur ddechrau gartref

Mae llawer y mae modd i chi ei wneud i helpu'r bywyd gwyllt a'r planhigion yn ein Bwrdeistref Sirol. Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael gardd, mae pethau syml megis gosod blychau adar, gadael y glaswellt i dyfu'n hirach mewn rhai rhannau o'r ardd i'w dorri a'i gasglu'n ddiweddarach yn y tymor, pentyrru boncyffion ar gyfer draenogod, a hyd yn oed drilio tyllau ynddyn nhw i greu cynefinoedd nythu i anifeiliaid di-asgwrn-cefn, i gyd yn bethau y mae modd eu gwneud yn hawdd a dydyn nhw ddim yn cymryd llawer o amser nac yn costio gormod o arian. Yna, gallech chi ymweld â'r ardaloedd yma o'ch gardd a rhyfeddu ar yr hyn y byddwch chi'n ei ddarganfod yn byw, yn nythu ac yn bwydo ar garreg eich drws.

Os nad oes gyda chi ardd, mae modd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau codi sbwriel gerllaw, monitro rhywfaint o'r bywyd gwallt pan fyddwch chi allan yn crwydro a rhoi gwybod i ni beth rydych chi'n ei weld; neu helpwch ni i gael gwared ar rywogaethau ymledol, megis y Cap Dur Heddwas o'n cefn gwlad drwy ei dynnu i fyny o'r gwreiddiau unwaith y bydd wedi blaguro.

Beth arall allwn i ei wneud?

Mae llawer o achlysuron lleol a chenedlaethol y gallech chi gymryd rhan ynddyn nhw.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol, gallech chi hefyd ymuno â'n Partneriaeth Natur Lleol RhCT a darganfod rhagor am yr hyn y mae rhai o'n grwpiau gwirfoddol lleol yn ei wneud yn eich ardal.

E-bostiwch bioamrywiaeth@rctcbc.gov.uk i gael gwybod rhagor.

Planhigion

Mae llawer o rywogaethau o blanhigion i'w gweld ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae ein tirwedd, ei hinsawdd a'i threftadaeth yn darparu ystod eang o gynefinoedd lle mae modd i'n planhigion brodorol ffynnu. Os ydych chi'n cerdded trwy ein rhostiroedd, ein glaswelltiroedd isel, ein coedwigoedd neu hyd yn oed drwy domenni gwastraff y glofeydd, byddwch chi'n dod o hyd i lawer o bethau.

Mae yna lawer mwy na blodau gwyllt yma. Mae yna ystod o laswellt, hesg, brwyn, rhedyn, cennau a mwsoglau, yn ogystal â choed a ffyngau. Maen nhw i gyd yn aros i gael eu darganfod, a hynny ar garreg ein drws.

Anifeiliaid

Rydyn ni'n ffodus iawn yn Rhondda Cynon Taf i gael amrywiaeth o gynefinoedd, ac mae'r cynefinoedd yma'n cynnal ffawna brodorol gwych. Os ydych chi'n cerdded drwy ein trefi, ein pentrefi, ein parciau neu'n mynd am dro yn ein coedwigoedd, mae'n siŵr y byddwch chi'n dod ar draws bywyd gwyllt.

Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am ein rhywogaethau blaenoriaeth, ewch i'n Cynllun Gweithredu dros Natur, sy'n cynnwys llawer o wybodaeth gefndirol ddiddorol.

Felly beth am fynd am dro a rhoi gwybod i ni beth rydych chi wedi'i weld o'ch cwmpas?