Skip to main content

Gweithredu dros Natur

‘Gweithredu dros Natur' yw'r cynllun gweithredu adfer byd natur newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf. 

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sydd eu hangen i helpu bywyd gwyllt i ffynnu yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n gwneud Rhondda Cynon Taf mor arbennig.

Mae'r adran 'Sut allaf i helpu?' yn awgrymu rhai camau gweithredu ar gyfer ystod o wahanol grwpiau o bobl er mwyn i chi gael gwybod sut y mae modd i chi helpu bywyd gwyllt Rhondda Cynon Taf orau.

Mae'r cynllun yn cynnwys rhai camau gweithredu cyffredinol sy'n berthnasol i bob cynefin a rhywogaeth a hefyd rhai camau mwy penodol sy'n berthnasol i rai cynefinoedd megis glaswelltiroedd, coetiroedd, dŵr croyw ac ardaloedd trefol. Mae yna hefyd gamau gweithredu penodol ar gyfer rhywogaethau neu grwpiau rhywogaethau penodol sydd wedi'u hamlygu fel rhai allweddol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. 

Cafodd y cynllun yma ei lunio gan Bartneriaeth Natur Leol Rhondda Cynon Taf[WR1]  ac mae wedi cynnwys llawer o naturiaethwyr lleol, sefydliadau cymunedol a grwpiau cadwraeth gwirfoddol yn ogystal â staff o'r Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.


 [WR1]This website is in English. Is there a Welsh page?