Skip to main content

Partneriaeth Natur Leol RhCT

Mae Partneriaeth Natur Leol RhCT, a sefydlwyd ym 1998, yn cynnwys partneriaid gwybodus ac angerddol iawn o ran bywyd gwyllt y sir. Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru a llawer yn rhagor. Rydyn ni'n cydweithio i gynllunio a gweithredu dros fyd natur yn yr ardal. Mae modd i unrhyw un ddod yn aelod.

Prif nod y bartneriaeth yw 'gwarchod a chyfoethogi bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf' a byddwn ni'n gwneud hyn drwy'r canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth yn RhCT
  • Cofnodi bioamrywiaeth RhCT
  • Diogelu bioamrywiaeth RhCT
  • Rheoli ardaloedd er budd bioamrywiaeth RhCT.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y Bartneriaeth Natur Leol, ewch i’n gwefan Gweithredu dros Natur neu wefan Partneriaeth Natur Leol.

Mae modd i chi ein dilyn ni ar Facebook.

Hoffech chi ymuno â'r Bartneriaeth Natur Leol? E-bostiwch Bioamrywiaeth@rctcbc.gov.uk.