Kate - Therapydd Teulu Systemig, Carfan Teuluoedd Therapiwtig

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi bod yn Seicotherapydd Systemig cymwysedig ers 3 mlynedd. Rydw i wedi bod yn gweithio yn y swydd yma ers i mi gymhwyso a chael y swydd yn syth o'r Brifysgol.

Gweithiais gyda theuluoedd am 11 mlynedd cyn hyn, a bûm yn gweithio'n bennaf i sefydliadau trydydd sector gan ymwneud â rhianta a pherthnasoedd teuluol

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Rydw i'n treulio fy niwrnod yn siarad â phobl, naill ai am eu gwaith neu eu perthnasoedd teuluol. Rydw i'n ymgynghori â Gweithwyr Cymdeithasol am eu gwaith gyda theuluoedd, ond mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn ymwneud yn uniongyrchol â chyplau a theuluoedd, gan weithio i’w hagenda eu hunain yn trafod perthnasoedd a sut i wneud newidiadau.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Rydw i wrth fy modd yn siarad â phobl, yn dod i ddeall gwahanol safbwyntiau ac yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT

Roeddwn i'n chwilio am rôl lle byddwn i'n cael rhoi therapi a defnyddio fy hyfforddiant. Roeddwn i'n ffodus i'r swydd yma gael ei hysbysebu ar yr adeg iawn.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Mae'n fraint cael gweithio o fewn carfan medrus iawn a chael rheolwr hynod gefnogol. Rydw i'n cael fy nghefnogi i barhau â’m dysgu fel therapydd ac i ymgynghori â therapyddion eraill er mwyn fy helpu i gyflawni fy rôl hyd eithaf fy ngallu.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Y rhyddid i ymarfer therapi gyda'r rhai sydd ddim yn gallu fforddio talu amdano.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Rydw i wedi canfod bod Cyngor RhCT yn gefnogol i fy anghenion ac yn agored i ffyrdd arloesol o weithio.