Huw - Gweithiwr Ymyrraeth, Prosiect Meisgyn/Dwyrain Plant Hŷn

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Bûm yn gweithio yn y diwydiant glo am 25 mlynedd cyn i'r pwll gau.  Gwirfoddolais am gyfnod byr gyda'r mudiad Cymorth i Ddioddefwyr wrth weithio mewn cartref preswyl i blant am 3 blynedd cyn dechrau gyda charfan Meisgyn yn 2005.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Rydw i'n gweithio gyda phlant rhwng 11 a 17 oed sydd yn y system Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant sy'n cael anawsterau gartref. Fel arfer yn y bore rydw i'n recordio fy sesiynau cyswllt gyda'r bobl ifainc sy'n gwneud galwadau ffôn ac yn paratoi fy sesiynau gwaith neu'n mynychu cyfarfodydd. Yn y prynhawniau rydw i'n cyfarfod â’r bobl ifainc i fynd i’r afael â’r materion a’r pryderon a nodwyd yn y cynllun ymyrryd a’u trafod.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Hyblygrwydd i gynllunio fy niwrnod/wythnos gwaith.  Cyfarfod y bobl ifanc a'u teuluoedd i gynnig cymorth.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Roeddwn i'n hyfforddwr pêl-droed ieuenctid tra yn y diwydiant glo ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda'r bobl ifainc oedd yn rhan o'r tîm.  Pan gaeodd y gwaith glo, roedd y math yma o waith o ddiddordeb i mi felly dechreuais ymgeisio am y swyddi perthnasol.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?

Mae fy rôl wedi cynnig y cyfle i mi gymryd rhan ym mywydau teuluoedd a phobl ifainc i gynnig cymorth ymarferol. Rydw i'n gobeithio bod hyn wedi eu helpu nhw i wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau. Rydw i wedi bod yn ffodus i gael llawer o brofiadau o wneud gweithgareddau awyr agored a gwneud cynnydd yn fy natblygiad personol fy hun.  Cynigiais gymorth hirdymor i berson ifanc oedd yn profi anawsterau mewn gofal a’i addysg a aeth ymlaen i’r brifysgol yn ddiweddarach. Roedd hyn yn rhoi boddhad mawr i mi.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Bod yn rhan o garfan lwyddiannus sef Prosiect Meisgyn.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Byddwn i'n ei argymell yn fawr os hoffech chi wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.