Joanne - Uwch Ymarferydd, Gwasanaethau i Blant - Gwasanaeth Meisgyn

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi gweithio i Gyngor RhCT fel Uwch Ymarferydd ers bron i 3.5 mlynedd. Cymhwysais yn Weithiwr Cymdeithasol yn 2013 a chefais fy swydd gyntaf yng Ngwasanaeth Meisgyn dros gyfnod mamolaeth. Gadewais wedyn i weithio i sefydliad arall cyn dychwelyd i Gyngor RhCT i wneud fy swydd bresennol.

Ar ôl fy ngradd gychwynnol mewn Troseddeg a Chymdeithaseg a chyn cychwyn ar fy ngradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol, fe wnes i amrywiaeth o swyddi ym maes gofal cymdeithasol. Cadarnhaodd y rhain fy mhenderfyniad i hyfforddi i fod yn Weithiwr Cymdeithasol ar ôl mwynhau gweithio gyda phobl agored i niwed.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

AA minnau'n Uwch Ymarferydd, mae fy swydd yn cynnwys gweithio gydag achosion yn ogystal â goruchwylio staff. Mae Gwasanaeth Meisgyn yn rhan o’r Gwasanaethau i Blant. Mae fy swydd yn cynnwys gwaith uniongyrchol gyda theuluoedd y mae eu plant mewn perygl o ddod yn blant sy'n derbyn gofal neu sy'n blant sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd ac mae cynllun i'w hadsefydlu gartref. Fel gydag unrhyw swydd gofal cymdeithasol, does y fath beth â diwrnod arferol a dyna pam rydw i'n caru bod yn weithiwr cymdeithasol. Mae diwrnod gwaith yn brysur gyda gweithgareddau dyddiol cyffredin yn cynnwys ymweliadau â theuluoedd a chwblhau asesiadau a chynlluniau. Mae'r gwaith uniongyrchol ar sawl ffurf megis gwaith un i un, gwaith grŵp a gweithgareddau awyr agored.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Gallu defnyddio fy sgiliau dadansoddol a barn broffesiynol i gwblhau asesiadau. Gweithio gyda theuluoedd a gweld newid parhaus cadarnhaol. Helpu eraill i ddatblygu yn eu rolau a'u gyrfaoedd.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Roeddwn i wedi gweithio i Gyngor RhCT o'r blaen ac roedd y swydd yn gam ymlaen yn fy ngyrfa, yn ogystal â gweithio i wasanaeth sydd â diwylliant tîm cadarnhaol a chefnogol lle mae hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn cael eu hannog. Hefyd, mae'r swydd yn cyd-fynd â'm gwerthoedd moesegol, sef y math o waith gyda theuluoedd, sef ymyrraeth gynnar ac atal.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT? 

Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol yn arwain at ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Uwch mewn Gwaith Cymdeithasol. Rydw i hefyd wedi cael llawer o gyfleoedd i gysgodi a chyflenwi rolau uwch.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Dydw i ddim yn byw yn RhCT ac rydw i wedi gweithio mewn nifer o awdurdodau lleol. Rydw i'n hoff iawn o ddiwylliant y cymunedau yn RhCT a gyrru o gwmpas rhannau gwledig yr awdurdod.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Mae gen i brofiadau da yn unig i'w rhannu fel yr ydw i wedi trafod yn y cwestiynau uchod.