Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant wrth y gwaith ymarferol ag astudio.  Mae bod yn Brentis yn golygu bod gyda chi swydd sy'n cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau allweddol wrth i chi weithio ac ennill cyflog. 

Lefelau prentisiaeth

Enw

Lefel

Lefel addysgol gyfwerth

Prentisiaeth Sylfaenol

NVQ Lefel 2

Wedi llwyddo mewn 5 arholiad TGAU

Prentisiaeth

NVQ lefel 3

Wedi llwyddo mewn 2 arholiad Safon Uwch

Prentisiaeth Uwch

Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 4 neu'n uwch

Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch neu lefel gradd sylfaenol ac uwch.

Gradd-brentisiaeth

Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 6

Byddwch chi'n gweithio ac yn astudio'n rhan amser mewn prifysgol neu goleg ac yn ennill gradd baglor lawn.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Unrhyw un -  cyn belled â'ch bod chi'n 16 oed neu'n hŷn, does dim terfyn oedran hŷn.

O ganlyniad i feini prawf Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.  Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, nid ydych chi'n gymwys ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil.  Fodd bynnag, cewch chi wneud cais am unrhyw swydd brentisiaeth arall.  Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Prentisiaethau ar gyfer pobl anabl

Mae modd gwneud bron i bob un brentisiaeth yn hygyrch i bawb. Bydd RhCT yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod chi'n cael cymorth sydd wedi'i deilwra i ddiwallu'ch anghenion er mwyn i chi allu gweithio'n hyderus.

A oes modd i mi wneud cais am fwy nag un rôl?

Oes, mae modd i chi wneud cais am fwy nag un rôl.  Fodd bynnag, dim ond ar eich cais cyntaf y cewch eich gwahodd i sefyll eich prawf profi dawn ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, bydd eich sgorau yn cael eu cymhwyso'n awtomatig i unrhyw gais cysylltiedig yn yr ymgyrch recriwtio yma.

A oes angen profiad gwaith perthnasol arna i cyn i fi wneud cais am Brentisiaeth?

Nac oes. Rydyn ni'n edrych tuag at eich dyfodol, nid eich gorffennol chi. Mae ein proses ddethol yn ystyried eich galluoedd, eich potensial a'ch tystiolaeth o sgiliau rydych chi wedi'u hennill mewn unrhyw faes.

Beth ddylwn i wisgo?

Does dim cod gwisg ffurfiol gan Gyngor RhCT - mae gwisgo'n drwsiadus anffurfiol yn dderbyniol. Fodd bynnag, os ydych chi'n cwrdd ag aelodau o'r cyhoedd pan rydych chi'n cynrychioli'r adran, dylech chi wisgo'n ffurfiol.

Os yw fy nghais i'n llwyddiannus, sut y bydda i'n cael fy nghyfweld?

Yn dibynnu ar ganllawiau'r llywodraeth sydd ar waith yn ystod adeg benodol, bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu o bell. Yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol diweddaraf y llywodraeth, rydyn ni'n gweithio mewn modd sy'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y broses recriwtio.

Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad o bell, byddwn ni'n defnyddio 'Microsoft Teams' a bydd modd i chi gael mynediad at gyfarfod trwy ddolen y bydd yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Pa mor hir bydd y brentisiaeth?

Bydd eich prentisiaeth yn para hyd at 2 flynedd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf

Sut bydda i'n dysgu?

Mae hyn yn dibynnu ar y swydd rydych chi'n hyfforddi ar ei chyfer.  Mae pob Prentis y dilyn Rhaglen Astudio sydd wedi cael ei chymeradwyo. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n ennill cymhwyster cydnabyddedig.  Erbyn diwedd eich prentisiaeth, bydd gyda chi'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gyflawni'r swyddi rydych chi wedi hyfforddi ar ei chyfer.

Beth fydd y cyflog?

Byddwch chi'n cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oedran

Ers mis Ebrill 2022, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw:

  • 23 oed neu'n hŷn     £10.42
  • 21–22 oed                £10.18
  • 18–20 oed                £7.49
  • Dan 18 oed              £5.28

Sut ydw i'n cyflwyno Cais?

Ewch i'n peiriant chwilio am swyddi i wneud cais, neu Glicio yma!