Gwybodaeth am ein cynllun

Mae ein cynllun prentisiaeth wedi bod yn cael ei gynnal ers Medi 2012. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor wedi cyflogi dros 300 o Brentisiaid mewn sawl adran. Yn 2018 a 2021 enillodd Cyngor Rhondda Cynon Taf wobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru am ei raglen brentisiaethau ragorol.

Mae croeso i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais. Does dim terfyn o ran oedran.

Yn ystod y Brentisiaeth, byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae Prentisiaethau yn cynnig cymysgedd o hyfforddiant yn y gwaith a dysgu yn y dosbarth. Mae'r Prentisiaethau'n sicrhau bod gyda chi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn i chi gychwyn ar eich llwybr gyrfa dewisol a fydd hefyd yn arwain at gymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Yn ystod eich amser fel Prentis byddwch chi'n ennill cyflog a buddiannau eraill hefyd.

Os ydych chi'n ymuno â Chyngor RhCT, byddwn ni'n sicrhau bod gyda chi fentor personol a fydd yn eich helpu chi i ddysgu sgiliau newydd a chyflawni cymwysterau ffurfiol.

Mae Prentisiaethau Cyngor RhCT yn para am gyfnod penodol o ddwy flynedd lle byddwch chi'n derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n newid yn ôl oedran. Ers mis Ebrill 2023, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw:

  • 23 oed neu'n hŷn     £10.42
  • 21–22 oed                £10.18
  • 18–20 oed                £7.49
  • Dan 18 oed              £5.28