Jonathan Dixon -Cynorthwy-ydd Ynni a Lleihau Carbon dan Brentisiaeth

Enw: Jonathan Dixon

Blwyddyn dechrau'r brentisiaeth: 2021

Swydd bresennol: Cynorthwy-ydd Ynni a Lleihau Carbon dan Brentisiaeth

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dechrau'r brentisiaeth?

Roeddwn i'n gweithio mewn archfarchnad fel gyrrwr dosbarthu nwyddau.

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y rhaglen brentisiaethau?

Cyflwynais i gais am le ar y rhaglen brentisiaethau am fy mod i eisiau dechrau gyrfa. Roedd y cyfle i gael mynd yn ôl i'r coleg a dysgu wrth weithio'n apelio. Roedd gweithio i'r Awdurdod Lleol yn gyfle da a doeddwn i ddim eisiau colli'r cyfle hwnnw. Roedd nifer o brentisiaethau ar gael ond dewisais i rôl Cynorthwy-ydd Ynni a Lleihau Carbon dan Brentisiaeth.

Pa gyfleoedd datblygu ydych chi wedi'u cael ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT?

Rwy'n astudio ar gyfer cymhwyster Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu) yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Rydw i hefyd wedi dod yn swyddog cymorth cyntaf cymwys ac wedi datblygu fy sgiliau proffesiynol.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Mae'r uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys dysgu sut i gynnal arolygon ynni, datblygu fy sgiliau proffesiynol a mynd ar gwrs cymorth cyntaf.

Argymhellion i ymgeiswyr:

  • Cymerwch eich amser wrth lenwi eich ffurflen gais a nodi eich cymwyseddau. Mae digon o wybodaeth ar-lein er mwyn gwneud hyn.
  • Paratowch ar gyfer y cyfweliad.
  • Gwnewch eich gorau glas.