Daniel Morgan - Technegydd Peirianneg Sifil dan Brentisiaeth

Enw: Daniel Morgan

Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): 2019

Swydd bresennol: Technegydd Peirianneg Sifil dan Brentisiaeth

Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?

Roeddwn i'n astudio ar gyfer fy arholiadau Uwch Atodol yn chweched dosbarth YGG Cwm Rhondda. Roeddwn i'n astudio oedd Bioleg, Cymdeithaseg a Ffiseg.

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?

Er fy mod wedi mwynhau fy amser yn yr ysgol yn astudio gyda ffrindiau ac athrawon cefnogol, yn fy marn i, roeddwn i'n gwastraffu fy amser achos doeddwn i ddim yn cyflawni fy mhotensial.  Roeddwn i'n mwynhau Ffiseg a'r agweddau gwahanol ynghylch y pwnc yn fawr, a dechreuais i wneud rhywfaint o waith ymchwil i weld pa yrfaoedd fyddai'n debyg i'r hyn roeddwn i'n ei ddysgu. Roedd peirianneg yn ymddangos yn aml, ac o hyn, es i ati i ymchwilio prentisiaethau. Es i i Ffair Swyddi Rhondda Cynon Taf a dod o hyd i'r brentisiaeth Peirianneg Sifil. Pan gafodd y swydd ei hysbysebu, cyflwynais gais ar-lein hyd gorau fy ngallu. Yn dilyn hyn, ces i fy ngwahodd i ddau gam cyfweld. Yn ffodus i mi, cefais gynnig y rôl roeddwn i'i heisiau.

Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?

Ar hyn o bryd rydw i'n astudio ar gyfer cymhwyster Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (BTEC Lefel 3) yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.  Unwaith yr wythnos dwi'n mynd i'r coleg, wedyn dwi yn y gwaith am bedwar diwrnod. Mae'r cwrs yma'n ddiddorol iawn gan fy mod yn dysgu o hyd, ac hefyd mae modd i mi roi'r hyn rydw i wedi'i ddysgu ar waith yn fy ngwaith bob dydd. Yn ogystal â mynychu'r Coleg bob wythnos, rwyf hefyd wedi cwblhau cwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle a chwrs Ymwybyddiaeth o  Asbestos. Bydd hyn o fudd i mi yn y dyfodol wrth wneud cais am rolau yn y Cyngor gan eu bod yn gymwysterau ychwanegol ar gyfer fy CV. 

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Does dim un peth sy'n sefyll allan i mi, gan fy mod yn mwynhau cwblhau tasgau a gweithgareddau gwahanol bob dydd yn y gweithle. Gan fy mod i'n dysgu o hyd, mae rhai o fy uchafbwyntiau yn cynnwys tirfesur pontydd, cwblhau gwahanol arolygiadau ar strwythurau yn RhCT, ac ymweld â safleoedd gwahanol hefyd. Yn gyffredinol, dwi wedi mwynhau creu perthynas â gwahanol bobl a gweld y berthynas waith yn troi'n gyfeillgarwch. Erbyn hyn, dwi'n teimlo'n gyfforddus iawn yn y gwaith a dwi'n edrych ymlaen at gwblhau tasgau gwahanol yn y gwaith bob dydd.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Peidiwch â bod ofn gwneud cais am y rôl rydych chi am weithio ynddi.  Mae gwahanol brofiadau’r broses gyfweld yn gallu magu hyder, a pho fwyaf o gyfweliadau rydych chi'n rhan ohonyn nhw i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus, gorau oll. Hefyd, os ydych yn llwyddiannus yn eich cais, bydd pob aelod o staff Cyngor RhCT yn gwneud eu gorau glas i wneud i chi deimlo'n gyfforddus yn eich rôl ac yn eich helpu gydag unrhyw drafferthion neu ymholiadau sydd gyda chi.  Yn ogystal â'r amgylchedd cyfeillgar yn y gweithle, mae RhCT yn gyflogwr gwych, gan ei fod yn talu mwy na'r cyflog prentisiaeth cenedlaethol, yn cynnig oriau gweithio hyblyg, 25 diwrnod o wyliau blynyddol ac hefyd mae'r cynllun pensiwn y maen nhw'n ei gynnig yn wych ar gyfer cynllunio at eich dyfodol. Wrth gwblhau prentisiaeth, mae'n bwysig nodi eich bod yn cael eich talu i ddysgu, sy'n golygu bod y datblygiad proffesiynol yn barhaus. Os ydych chi'n gorffen yn yr ysgol neu'r coleg ac yn ceisio penderfynu a ddylech chi gwblhau prentisiaeth neu fynd i'r brifysgol, byddwn i'n dewis y brentisiaeth, a hynny o brofiad personol. Cofiwch y gall RhCT dalu i chi gwblhau gradd/Diploma Cenedlaethol Uwch yn y rôl rydych chi wedi'i dewis.