Skip to main content

Treth y cyngor gwybodaeth i landlordiaid

Landlordiaid – gweld manylion eich tenantiaid ar-lein

Rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Yn gyffredinol, pan fydd eiddo wedi'i feddiannu, y preswylydd fydd dan rwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor. Mae'n hanfodol, felly, fod landlordiaid ac asiantau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am newidiadau o ran tenantiaid eu heiddo yn rheolaidd. Mae angen i ni wybod:

  • enw/enwau llawn eich tenant/tenantiaid
  • dyddiad dechrau eu cytundeb tenantiaeth
  • dyddiad symud eich tenant/tenantiaid i mewn i'r eiddo
  • ydy'r eiddo'n cael ei roi ar osod â chelfi neu heb gelfi
  • yr union ddyddiad y bydd eich tenant/tenantiaid yn symud allan
  • eu cyfeiriad newydd

Os byddwch chi'n darparu'r wybodaeth yma i gyd cyn gynted â phosibl, bydd modd i ni sicrhau bod bil Treth y Cyngor eich tenantiaid yn cyrraedd yn brydlon. Byddwch chi hefyd yn derbyn unrhyw ostyngiadau y gallech chi fod â hawl i'w cael.

Treth y Cyngor

Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708

Tai amlfeddiannaeth

Os bydd y Cyngor wedi penderfynu bod eiddo penodol yn dŷ amlfeddiannaeth, bydd perchennog yr eiddo dan rwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor. I ddibenion Treth y Cyngor, mae'r gyfraith yn diffinio tŷ amlfeddiannaeth fel tŷ:

a) a adeiladwyd yn wreiddiol neu a addaswyd yn ddiweddarach i'w feddiannu gan bersonau nad ydynt yn ffurfio aelwyd sengl

neu

b) sy'n annedd i berson sydd, neu i ddau neu ragor o bersonau y mae pob un ohonynt, naill ai:

  • yn denant, neu sydd â thrwydded i feddiannu, rhan yn unig o'r adeilad, neu
  • sydd â thrwydded i feddiannu, ond nad yw dan rwymedigaeth i dalu rhent neu ffi drwydded mewn perthynas â'r annedd gyfan.

Dylech nodi fod diffiniad tŷ amlfeddiannaeth ar gyfer Treth y Cyngor yn wahanol i'r diffiniad ar gyfer dibenion trwyddedu. Gwahanol feysydd o'r gyfraith sy'n ymdrin â nhw.

Os byddwch chi'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor ar dŷ amlfeddiannaeth, bydd rhaid i chi apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Anheddau myfyrwyr

Mae tai sydd wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr yn unig wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Os ydy'ch eiddo chi'n annedd myfyrwyr, dylech chi lenwi'r Ffurflen Annedd Myfyrwyr yn Unig, a'i dychwelyd i'r Cyngor, gyda'r cadarnhad gofynnol o statws myfyriwr a restrir isod:

  • Blwyddyn academaidd Cadarnhad derbyniol Cyswllt
  • Myfyrwyr Blwyddyn 1 Tystysgrif myfyriwr Bwrsar neu Gofrestrydd y Brifysgol
  • Myfyrwyr sy'n dychwelyd Tystysgrif myfyriwr neu gerdyn ymrestru myfyrwyr Bwrsar neu Gofrestrydd y Brifysgol

Cofiwch, fyddwn ni ddim yn derbyn yr wybodaeth ganlynol yn dystiolaeth o statws myfyriwr:

  • Cerdyn ymrestru Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (‘NUS’)
  • Tystiolaeth o grant neu ddyfarniad myfyriwr

Os bydd eich eiddo'n cael ei rentu i fyfyrwyr yn ystod cyfnod yr haf, gallwch hefyd gael eithriad ar gyfer y misoedd hyn ar yr amod bod y myfyrwyr yn bwriadu defnyddio'r eiddo yn llety yn ystod y tymor yn unig. Os byddwch chi eisiau wneud cais am eithriad, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o unrhyw rent cadw sydd wedi'i dalu a/neu gytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi.

Bydd y Cyngor yn adolygu eithriadau myfyrwyr yn rheolaidd. Cyfrifoldeb perchnogion (neu'u hasiantau gosod neu'u hasiantau rheoli) yw casglu a darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol i'r Cyngor er mwyn cwblhau'r adolygiad.

Un arall o gyfrifoldebau'r perchennog yw hysbysu'r Cyngor, o fewn 21 diwrnod, o unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar unrhyw eithriad neu ostyngiad sy'n cael ei hawlio. Gall methiant i wneud hyn, neu gyflwyno gwybodaeth anwir, arwain at ddirwy.