Skip to main content

Rheoli eich cyfrifon ar-lein

Erbyn hyn, gall trigolion, busnesau a landlordiaid gael mynediad i'r cyfrifon amrywiol sydd ganddyn nhw ar systemau Cyngor Rhondda Cynon Taf trwy wasanaeth diogel a hawdd ei ddefnyddio.

Gall cyfrifon Treth y Cyngor, Trethi Busnes a Budd-dal Tai gael eu rheoli ar-lein trwy'r system newydd, Connect. Cafodd y system yma ei chyflwyno gan y Cyngor yn sgil galw mawr gan gwsmeriaid.

Mae'r system yn caniatáu i gwsmeriaid gael trosolwg ar eu cyfrifon, gwirio eu hanes talu a'r balans sy'n weddill, sefydlu Debyd Uniongyrchol, gweld taliadau sydd wedi'u gwneud iddyn nhw a'u tenantiaid, a thrafodion eraill.

Cael mynediad i'ch cyfrifon Treth y Cyngor, Trethi Busnes a Budd-dal Tai ar-lein.

Mae'r gwasanaeth ar-lein yn cynnwys:

  • Treth y Cyngor – gweld eich hanes talu, sefydlu Debyd Uniongyrchol, gwirio band prisio eich cartref, a gweld unrhyw negeseuon rydyn ni wedi'u hanfon atoch chi.
  • Trethi Busnes – gweld eich hanes talu, sefydlu Debyd Uniongyrchol, gwirio gwerth ardrethol eich safle ac unrhyw ryddhad ardrethi, a gweld unrhyw negeseuon rydyn ni wedi'u hanfon atoch chi.
  • Budd-daliadau – gweld taliadau sydd wedi'u gwneud i chi neu i'ch landlord a thaliadau sy'n ddyledus, gweld manylion eich asesiad cais ac unrhyw ordaliadau, a gweld unrhyw negeseuon rydyn ni wedi'u hanfon atoch chi.
  • Landlordiaid – ar gyfer eich tenantiaid i gyd: gweld taliadau sydd wedi'u gwneud i chi a thaliadau sy'n ddyledus, gweld manylion unrhyw ordaliadau, a gweld unrhyw negeseuon rydyn ni wedi'u hanfon atoch chi.
Os byddwch chi eisiau cael mynediad i'ch cyfrifon, yn gyntaf, bydd rhaid i chi gofrestru am y gwasanaeth a chael eich dilysu. Ar ôl cofrestru, bydd rhif adnabod personol (‘PIN’) yn cael ei anfon atoch chi drwy'r post. Bydd rhaid defnyddio'r rhif hwnnw wrth fewngofnodi a dechrau defnyddio'r gwasanaeth.

Cofrestrwch nawr a chael mynediad i'ch cyfrifon a'ch ceisiadau ar unwaith.