Skip to main content

Ynglŷn â Threth y Cyngor

Treth y Cyngor yw math o drethiant lleol y codir ar drigolion a pherchenogion cartrefi sydd wedi'u henwi'n 'bersonau sy'n atebol i dalu'.

Mae tua 21% o incwm Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cael ei ariannu trwy Dreth y Cyngor ac mae'r dreth yn cyfrannu tuag at gostau cynnal gwasanaethau yn y gymuned.

Daw 79% o incwm y Cyngor o grantiau llywodraeth ganolog, cyfraddau busnes a chostau eraill.

Mae'r Cyngor yn casglu treth ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer De Cymru a nifer o gynghorau cymuned.

Bydd eich bil yn dangos y swm mae pob sefydliad yn ei dderbyn a'r swm mae'r Cyngor yn ei dderbyn.

Canllawiau

Eich Canllaw Defnyddiol — Treth y Cyngor a Threthi Busnes

Gweld cyllideb yr heddlu

Cwestiynau cyffredin

Mae fy mil yn nodi fy mod i mewn ôl-ddyled yn dilyn blynyddoedd ariannol blaenorol – ydy hyn yn wir?

Dyma oedd y sefyllfa pan ddechreuon ni baratoi'r wybodaeth yn seiliedig ar gofnodion Treth y Cyngor ar 10 Mawrth 2023. Os ydych chi wedi talu'r swm yma ers hynny, peidiwch â thalu sylw i'r datganiad yma. Os dydych chi ddim wedi talu eich ôl-ddyledion eto, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn gwneud hynny.

Rydw i wedi derbyn llythyrau yn nodi fy ngostyngiad ar gyfer 2023/24. Oes rhaid i mi wneud unrhyw beth?

Oes. Darllenwch nhw'n ofalus er mwyn gofalu bod yr wybodaeth sydd wedi'i defnyddio ar gyfer eich asesiad yn gywir. Os ydy'ch amgylchiadau chi wedi newid neu fod yr wybodaeth yn anghywir, rhowch wybod i'r gwasanaeth budd-daliadau ar unwaith i osgoi gordalu neu dalu rhy ychydig. Rydych chi wedi derbyn taflen gyda'ch bil Treth y Cyngor er mwyn ichi roi gwybod inni am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Rydw i o'r farn bod angen cymorth arna i i dalu Treth y Cyngor neu daliadau rhent – â phwy ddylwn i gysylltu?

Os ydych chi ar gyflog bach neu gyflog cymedrol, neu'n hawlio budd-daliad oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, efallai bydd modd ichi gael cymorth gyda'ch biliau Treth y Cyngor a'ch rhent.

Os ydych chi'n byw mewn llety sy'n cael ei rentu, a dydych chi ddim yn cael cymorth i dalu'ch rhent, cysylltwch â ni ar unwaith i gael gwybod a oes modd i ni roi cymorth i chi.