Y Cyngor sy'n gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor oddi wrth holl gartrefi'r ardal.
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Talu trwy ddebyd uniongyrchol yw'r ffordd haws, ddi-drafferth o dalu Treth y Cyngor. Mae'n ddiogel ac yn gyfleus. Gofynnwch i'ch teulu a'ch ffrindiau am eu barn nhw!
Mae talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn golygu:
-
Gallwch chi ddewis dyddiadau talu cyfleus;
-
Byddwch chi'n gwybod ymlaen llaw beth fydd y gost bob mis, felly, fydd dim angen i chi wastraffu amser yn y banc yn trefnu talu symiau gwahanol;
-
Cewch chi ad-daliad llawn ar unwaith gan eich banc os bydd y Cyngor, y Banc neu'r Gymdeithas Adeiladu yn gwneud camgymeriad;
-
Bydd hawl gennych chi i ganslo'r taliadau ar unrhyw adeg, drwy anfon llythyr i'ch Banc / Cymdeithas Adeiladu;
-
Fydd dim costau ychwanegol a bydd y cyfan yn digwydd yn awtomatig.
Byddwch fel y 60,000 o aelwydydd sydd eisoes yn talu Treth y Cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, a manteisio’n llawn ar y cynllun yma.
Talu eich Treth y Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol
Oeddech chi'n gwybod bod ffordd lawer haws a diffwdan o dalu Treth y Cyngor? Chi sydd wrth y llyw wrth dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych chi am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch ni ar 01443 425002 a byddwn ni'n rhoi atebion i chi.
Talu ar-lein
Mae'n ddiogel, yn gyflym ac yn gyfleus.
Nodwch: I dalu ar-lein, bydd angen eich cyfeirnod Treth y Cyngor (sydd ar eich bil Treth y Cyngor) a cherdyn debyd neu gerdyn credyd.
Galw heibio
Gallwch chi dalu ag arian parod, siec, cerdyn debyd neu gerdyn credyd yn eich canolfan IbobUn agosaf.
Swyddfa'r Post/Payzone:
Defnyddiwch y barcod ar eich bil i dalu mewn unrhyw Swyddfa'r Post neu siop sy'n arddangos logo Payzone.
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST
Ffôn: 01443 425002
Minicom: 01443 680708