Skip to main content

Beth yw larwm llinell fywyd?

Mae technoleg Larwm Llinell Fywyd yn wasanaeth larwm cartref sydd ar gael i bobl sydd angen cymorth i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Mae ar gael i unrhyw un sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf am dâl bach, wythnosol. Yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw llinell dir gyda phwynt pŵer gerllaw (os nad oes gennych bwynt pŵer, bydd cordyn estyn yn iawn).

 Mae'r larwm Llinell Fywyd yn cynnwys sylfaen sy'n cysylltu â'ch llinell ffôn, ynghyd â botwm y gellir ei wisgo fel mwclis neu fand garddwrn (gallwch ei wisgo yn y gawod). Gallwch wasgu'r botwm unrhyw bryd, ddydd neu nos, i alw am help mewn argyfwng.  Byddwch hefyd yn derbyn allwedd ddiogel fel rhan o'ch gwasanaeth Lifeline.

Mae 4 cam i'r broses Llinell Fywyd:

  1. Ry'ch chi'n gwasgu'r botwm neu synhwyrydd ac mae'n rhoi rhybudd
  2. Bydd yr uned Llinell Fywyd yn cael ei hactifadu ac yn rhybuddio'r ganolfan monitro drwy'r llinell ffôn
  3. Bydd y ganolfan monitro yn ateb eich galwad ac yn siarad â chi drwy'r Llinell Fywyd
  4. Bydd hi'n ymateb fel sy'n briodol


Mae'r larymau hyn yn rhoi tawelwch meddwl i'r defnyddwyr a'u hanwyliaid. Maen nhw'n gwybod, pe bai argyfwng, y byddai modd cysylltu ag aelodau'r teulu neu ffrindiau penodol mewn argyfwng.

Mae modd ychwanegu offer ychwanegol, sef Teleofal, at eich Llinell Fywyd i helpu i fonitro peryglon eraill yn y cartref. 

Gweld rhagor o wybodaeth am Larymau Argyfwng Llinell Fywyd;

Gwneud cais am Larwm Argyfwng Llinell Fywyd

Gallwch wneud cais am eich larwm Llinell Fywyd drwy gysylltu â:

Gwasanaethau Llinell Fywyd

E-bost: Llinellfywyd@rctcbc.gov.uk 
Ffôn: 01443 425090

 

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?