Skip to main content
Corona-Welsh-content (1)

Anableddau Corfforol

Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill i ddarparu ystod o wasanaethau sydd o gymorth i oedolion a chanddyn nhw anableddau corfforol, yn ogystal â’r sawl sy’n rhoi gofal iddyn nhw. Ein nod yw helpu'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau i fyw bywyd boddhaus ac annibynnol yn eu cymuned.

Dyma’r math o gymorth sydd ar gael:

  • Darparu offer a newidiadau yn y cartref a fydd yn helpu gyda thasgau bob dydd. 
  • Gofal yn y Cartref sy'n darparu gofal personol a chymorth i fyw yn annibynnol.
  • Cymorth gan ein Carfanau adsefydlu i'ch helpu chi i ddychwelyd adref yn ddiogel yn dilyn arhosiad mewn ysbyty neu i ddysgu neu ailddysgu sgiliau byw sylfaenol.
  • Darparu bathodynnau car i'r anabl, i helpu gyda pharcio.
  • Darparu Pryd ar Glud, sydd ar gael i bobl dros 60 oed a fyddai'n ei chael hi'n anodd coginio bwyd iddyn nhw'u hunain. Gall pobl dan 60 oed fanteisio ar y gwasanaeth yma os ydyn nhw'n anabl neu eu bod nhw â salwch. (Rhaid i bobl dan 60 oed gael asesiad yn gyntaf).
  • Gwifren Achub Bywyd, sydd yn system larwm a all roi cymorth o bwyso botwm. 
  • Gwasanaethau Teleofal (Telecare) sy'n defnyddio monitorau electronig er mwyn sicrhau bod pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ddiogel yn eu cartrefi.
  • Darparu gwybodaeth am symud i gartref gofal neu dai anghenion arbennig os yw byw gartref yn rhy anodd, a'r problemau yn rhy fawr i'w goresgyn.

Sut i gael cymorth

Mae modd i unrhyw un ofyn am ein cymorth. Mae modd ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol, neu, os ydy hi’n well gennych chi, gall aelod o’r teulu neu rywun sy’n ymwybodol o’ch sefyllfa gysylltu â ni ar eich rhan chi. 

Yn fwy na thebyg, bydd aelod o staff yn gwneud trefniadau i gyfarfod â chi a, lle bo'n briodol, y person sy'n gofalu amdanoch chi, er mwyn trafod eich amgylchiadau ac asesu eich anghenion. 

Bydd y broses yma'n nodi unrhyw anawsterau rydych chi'n eu hwynebu ac yn rhoi cyfle i chi drafod sut hoffech chi i ni'ch cefnogi chi wrth oresgyn yr anawsterau hynny. 

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n paratoi cynllun sy’n nodi’r math o gymorth sydd ei angen arnoch chi yn y cartref, yn y gymuned ehangach neu mewn canolfannau mwy arbenigol, gan ddibynnu ar y sefyllfa a nodau a dyheadau’r unigolyn.

Fydd dim trefniadau yn cael eu gwneud oni bai fod pawb yn cytuno â'r cynllun. Gallwn ni hefyd edrych ar anghenion y bobl sy'n gofalu amdanoch chi. Mae modd gwneud hynny ar wahân, trwy asesiad cynhaliwr (gofalwr) os dyna’r dymuniad.