Skip to main content

Anableddau Dysgu

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn darparu ystod o wasanaethau sydd o gymorth i oedolion gydag anableddau dysgu, yn ogystal â chymorth i’w rhieni a'u cynhalwyr.

Ein bwriad yw helpu’r rheiny sy’n defnyddio’n gwasanaethau ni i fyw bywyd cyflawn a gweithgar yn y gymuned a’u galluogi nhw i gyrraedd eu llawn botensial.

Cysylltu â ni

Mae ein Carfannau Cymorth Cymunedol yn darparu cymorth i oedolion sydd ag anableddau dysgu.

Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn:
 01443 425003
E-bost:
GwasanaethauCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Mae'r Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos
Ffôn:
01443 743665
E-bost:
CarfanArDdyletswyddGwaithCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

 

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr – yn gweithio i gynnal y bobl hynny sy’n cynnal pobl eraill.
Cyfeiriad: 11-12 Gelliwastad Road, Pontypridd. CF37 2BW.
Ffôn: 01443 281463 est: 21420
E-bost: CynnalyCynhalwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk