Skip to main content

Defnyddio eich larwm Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) neu Deleofal (Telecare)

Gall defnyddio larymau cymunedol a/neu dechnoleg Teleofal helpu pobl o unrhyw oedran a gallu i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i'r teulu neu i ffrindiau gan wybod bod modd cysylltu â nhw mewn argyfwng. Yn ogystal â hynny, gall teclynnau galw gael eu darparu fydd yn rhybuddio cynhalwyr preswyl dim ond pan fydd angen help. Bydd hyn yn galluogi cynhalwyr i gael seibiant gwerthfawr o'u gwaith cynnal.

Cychwyn eich larwm Gwifren Achub Bywyd

Mae'n bwysig gwisgo'ch teclyn gwddf pryd bynnag rydych chi yn y tŷ neu yn yr ardd. Mae'r teclyn gwddf yn ddiogel rhag dŵr, felly fydd dim angen ei dynnu wrth gael cawod.

Os ydych chi'n teimlo'n sâl neu eich bod wedi cwympo, pwyswch y botwm coch ar eich teclyn gwddf a bydd hyn yn sbarduno galwad i Ganolfan Fonitro 24 awr y Cyngor. Bydd yr uned yn siarad â chi wrth iddi ddeialu i'ch sicrhau ei bod hi'n galw am help.

Bydd un o weithredwyr cyfeillgar ein Gwifren Achub Bywyd yn ateb eich galwad ac yn siarad â chi trwy'r monitor dwy ffordd ar yr uned ei hun. Bydd y gweithredwr yn gofyn i chi beth sy'n bod a beth hoffech chi iddo fe / iddi hi ei wneud.

Bydd y gweithredwr wedyn yn cymryd y camau priodol, er enghraifft, cysylltu ag un o'ch cysylltiadau brys a gofyn iddo fe / iddi hi i ddod i helpu, neu os yw’n briodol, yn galw'r gwasanaethau brys.

Os ydych chi'n rhy bell o'r uned i glywed y gweithredwr neu os yw e'n methu â'ch clywed chi, bydd e'n eich ffonio chi ar ffôn y tŷ i geisio cysylltu â chi. Os yw hyn yn aflwyddiannus, bydd y gweithredwr yn cysylltu ag un o'ch cysylltiadau brys a gofyn iddo / iddi ymweld â chi cyn gynted â phosibl.

Os na fydd modd cysylltu ag unrhyw un o'ch cysylltiadau brys, bydd ein gweithredydd yn cysylltu â'r heddlu a gofyn iddyn nhw ymweld â chi i gadarnhau bod popeth yn iawn.

Os ydych chi wedi pwyso'r botwm ar eich teclyn gwddf drwy gamgymeriad, does dim ots - byddwn ni'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n iawn ac yn cau'r alwad.

Camddefnyddio eich teclyn gwddf

Cofiwch y dylech chi bwyso'r botwm mewn achos o argyfwng yn unig. Peidiwch â'i gamddefnyddio mewn unrhyw ffordd, er enghraifft, trwy'i bwyso dro ar ôl tro, neu i ofyn faint o'r gloch yw hi neu ble mae'ch teclyn rheoli o bell!

Yn anffodus, gall camddefnyddio'ch teclyn gwddf dro ar ôl tro arwain at dynnu'r gwasanaeth yn ôl.

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?