Cyfleoedd Gwaith ar Ddiwrnod yr Etholiad

Yn ystod etholiadau, mae'r Swyddfa Etholiadau yn cyflogi llawer o staff ar ran y Swyddog Canlyniadau er mwyn cyflawni swyddi megis:-

  • Llywyddion a Chlerciau Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.  Sy'n gyfrifol am gyflwyniad y pleidleisiau ym mhob gorsaf bleidleisio.  Ar ddiwrnod yr etholiad, mae gofyn i staff y gorsafoedd pleidleisio weithio rhwng 6.30am a 10pm heb adael yr orsaf bleidleisio
  • Cyfrifwyr i weithio gan gyfri pleidleisiau un ai dros nos yn dilyn yr etholiad neu'r diwrnod canlynol

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu a byddwch chi'n cael eich cynorthwyo gan staff profiadol.  Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, byddech chi'n cael cymryd y diwrnod i ffwrdd (cyn belled ag yr ydych chi wedi derbyn cymeradwyaeth gan eich Rheolwr Llinell) a byddech chi hefyd yn cael eich talu am gyflawni'r gwaith yma ar ben eich cyflog arferol (dyw'r ffigyrau heb gael eu cyfrifo ar hyn o bryd).

Pam gweithio mewn Etholiadau?

  • Byddwch chi'n dysgu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau newydd, gan weithio yn rhan o garfan.
  • Profiad a hyfforddiant unigryw - does dim dau ddiwrnod yr un fath.
  • Byddwch chi'n cael eich talu am eich amser.
  • Dysgwch ragor am sut mae democratiaeth yn gweithio a sut mae eich pleidlais chi'n cael ei chyfri.

Isafswm Gofynion - Er mwyn cyflawni dyletswyddau etholiad, rhaid i chi fod:

  • O leiaf 18 mlwydd oed.
  • Meddu ar yr hawl i weithio yn y DU (yn unol â'r hynny sydd wedi'i nodi yn Neddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006).

RHAID I UNRHYW UN SY'N CAEL EU CYFLOGI I GYFLAWNI UNRHYW DDYLETSWYDDAU ETHOLIADOL BEIDIO Â GWEITHIO AR RAN YMGEISYDD NEU YMGYRCH AR RAN UNRHYW YMGEISYDD.

Cyflwyno Cais

Os oes gyda chi neu mae gyda chi ffrindiau neu deulu fyddai â diddordeb mewn ymgeisio am unrhyw un o'r swyddi uchod, cwblhewch y ffurflen gais, neu gofynnwch iddyn nhw ei chwblhau.

Ar ôl ei chwblhau, e-bostiwch y ffurflen at mailto:nicola.j.evans@rctcbc.gov.uk - byddwn yn cysylltu â chi os byddwch yn llwyddiannus.

 

DOES DIM ANGEN I STAFF SYDD WEDI CYFLWYNO EU FFURFLENNI WEDI'U CWBLHAU AILYMGEISIO.

Os hoffech chi wybodaeth bellach, e-bostiwch Nicola.j.evans@rctcbc.gov.uk neu GwasanaethauEtholiadau@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 490100