Skip to main content

Grŵp Cymorth Menopos

 
 
Date(s)
Dydd Mercher 2 Hydref 2024
Cyswllt

Os hoffech chi ymuno â'n Grŵp Cymorth Menopos, cwblhewch y ffurflen isod:
https://forms.office.com/e/WUs167aP8s

Fel arall, e-bostiwch y Llinell Gymorth Lles i Staff LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk  neu ffonio 01443 424100.

Nodwch, trwy ymuno â'r grŵp yma rydych chi'n rhoi caniatâd i ni eich ychwanegu i'r sianel Teams a derbyn gohebaith yn ymwneud â'r grŵp.

 

Registration URL
https://rct.learningpool.com/enrol/index.php?id=2134
Disgrifiad

Term yw'r Menopos sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio adeg naturiol o fywyd unrhyw un sydd wedi profi mislifoedd.  Er bod y menopos yn effeithio ar y mwyafrif ohonom ni, boed hynny mewn ffyrdd uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mae'n parhau i gael ei ystyried fel pwnc tabŵ ac yn aml yn cael ei anwybyddu wrth sgyrsio'n agored.

Dyma pam rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Cymorth Menopos. Mae'r grŵp yma:
- Ar gael i bawb, ni waeth eich oed, rhyw, neu rywedd. Mae deall y menopos yn gyfrifoldeb ar bawb!
- Yn lle parchus a diogel ble bydd modd rhannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a gofyn cwestiynau.


Byddwn ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd lle bydd cyfle i rannu profiadau, dysgu a chyfathrebu â'n gilydd, a gwrando ar siaradwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiadau o'r menopos.

Rydyn ni hefyd wedi sefydlu sianel gaeedig ar Microsoft Teams y mae modd i chi ymuno â hi er mwyn cyfathrebu gyda'n gilydd y tu allan i'r cyfarfodydd.

 Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal gan Dr Pippa Meredith ac, yn unol â thema Diwrnod Menopos y Byd, bydd yn canolbwyntio ar therapi hormonau sy'n ymwneud â'r menopos. Byddwn ni'n trafod y gwahanol fathau o driniaeth hormonau a'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r driniaeth yma. Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.

 

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter