Bob blwyddyn mae ymgyrch genedlaethol i annog pobl sy'n gymwys i dderbyn eu brechlyn rhag y ffliw. Mae modd i'r ffliw fod yn ddifrifol iawn. Feirws sy'n ei achosi ac mae modd iddo arwain at salwch fel broncitis a niwmonia a fydd o bosibl angen triniaeth yn yr ysbyty. Mae achosion ffliw yn ymddangos bob gaeaf, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal. Yn ystod gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw yn y DU yn sgil salwch sy'n gysylltiedig â'r ffliw. Yn ôl Llywodraeth y DU, mae cael eich brechu rhag y ffliw yn golygu eich bod chi 33% yn llai tebygol o orfod cael eich anfon i’r ysbyty oherwydd y ffliw
Cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn yw'r ffordd orau i amddiffyn eich hun a'r rhai rydych chi'n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw rhag y ffliw. Trefnwch eich brechlyn rhag y ffliw am ddim
Os oes mynediad TGCh gyda chi ewch i: https://brechiadrhagyffliw.rctcbc.gov.uk/ i drefnu eich brechlyn rhag y ffliw. Os does dim mynediad TGCh gyda chi, ffoniwch 01443 425010 i drefnu eich brechlyn.
Bydd modd cadw lle o 18 Medi ymlaen, felly PEIDIWCH â chadw lle cyn hynny!
Bydd angen eich...
•Rhif Yswiriant Gwladol
•Dyddiad geni
(Nodwch: Yn anffodus, oherwydd y nifer uchel o apwyntiadau a gafodd eu colli'r llynedd, byddwn ni'n codi tâl o £20 os na fyddwch chi'n dod i'ch apwyntiad).
|