Yn ystod cyfarfod diwethaf y Cyngor Llawn brynhawn Mercher diwethaf (28 Tachwedd), fe gyflwyniais i f'araith flynyddol ar Sefyllfa'r Fwrdeistref Sirol.  Ynddi, soniais i am y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf a'n blaenoriaethau ni ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod.

Er gwaethaf datganiadau anghywir gan y Llywodraeth yn San Steffan, mae disgwyl i gynni barhau i fod yn rhan mawr o wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol rhagweladwy, ond mae ein rheolaeth ofalus mewn perthynas â’n harian ni a'n dull uchelgeisiol o fynd ati o ran buddsoddi cyfalaf yn parhau i osod darlun eithaf cadarnhaol yma yn Rhondda Cynon Taf.

Yn rhan o'r drafodaeth, soniais i am y cynnydd rhagorol yn nhermau darparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ar gyfer ein pobl ifainc oherwydd y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n cael ei chynnal ar y cyd â Llywodraeth Cymru.  Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gweld llu o ysgolion newydd yn agor eu drysau ar draws y Fwrdeistref Sirol yn rhan o gam Band A, gwerth £160m, gan gynnwys Ysgol Gynradd Gymuned Cwmaman (£7.2m), Ysgol Nantgwyn (£13.5m), ac adran gynradd Ysgol Tonyrefail 3-19 oed.  Rydyn ni'n ymgynghori ar gynigion i gyflwyno cynlluniau eraill o dan gam Band B ar gyfer ardaloedd pen uchaf Cwm Cynon a Phontypridd a'i chyrion.  Ychwanegon ni £2 filiwn at y gyllideb ar gyfer ysgolion yn 2018/19 ac rydyn ni'n ymgynghori ar gynnydd arall yn 2019/20 yn rhan o'n proses ymgynghori ar y gyllideb - ac mae croeso i chithau leisio'ch barn yma.

Cafodd aelodau wybod am y cynnydd rhagorol a gafodd ei wneud mewn perthynas â gwella'n priffyrdd a'r rhwydwaith trafnidiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.  Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Cabinet gynlluniau i fuddsoddi £23.5m arall i gyflymu'n rhaglen gwella priffyrdd ni dros y 3 blynedd nesaf.  Yn 2011/12, 15.7% oedd y ganran o ffyrdd dosbarthiadol yn y categori coch (y rheiny sydd angen sylw), a soniais i mai 7.2% oedd hynny y llynedd.  Roedd hi'n dda gen i roi gwybod i Aelodau bod cynnydd pellach wedi bod yn y maes yma, gyda'r ganran bellach yn 4.8% – sy'n dystiolaeth o'r holl waith rydyn ni wedi'i wneud i wella'n priffyrdd dros y blynyddoedd diwethaf.  Ers 2011/12, mae dros 1,000 o gynlluniau ffyrdd a 350 o gynlluniau llwybrau troed wedi cael eu cwblhau, gyda thros 150 o welliannau i'r priffyrdd a 100 o welliannau i lwybrau troed eu gwneud, dim ond yn y flwyddyn ddiwethaf.  Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gwella'n strwythurau, gyda 33 o brosiectau wedi'u cwblhau ers 2011, yn ogystal â £7.394m wedi'i glustnodi ar gyfer y gwaith yma yn 2018/19.

Gyda golwg ar faterion eraill, mae llwyddiant ein Grant Cynnal Canol Trefi yn golygu y bydd y Cabinet yn trafod adroddiad cyn bo hir a fydd yn argymell i ehangu'r cynllun i ardaloedd y Porth, Glynrhedynog, ac Aberdâr, ar ôl i 97 o geisiadau ddod i law hyd yn hyn ar gyfer Treorci, Aberpennar, a Thonypandy.  Mae'r gwaith adilddatblygu hefyd yn mynd rhagddo'n dda iawn ar safle Hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf, gyda'r strwythur dur bellach wedi'i osod ar gyfer "Adeilad C"; ac rydyn ni hefyd yn ymgynghori ar gynlluniau adfywio ar gyfer canol trefi'r Porth ac Aberpennar.

Mae ein buddsoddiad ym maes hamdden yn parhau i dalu ar ei ganfed, gan gynnwys agor 4 cyfleuster 4G arall eleni yn Abercynon, Garth Olwg, Y Porth, a Glynrhedynog. Mae hyn yn golygu bod 11 o gyfleusterau wedi'u cyflwyno ynghyd â dau gynllun arall yn mynd rhagddo yn Ysgol Uwchradd Bryncelynnog ac Ysgol Gymraeg Rhydywaun.  Rydyn ni newydd agor Stadiwm Ron Jones yn Aberdâr, sy'n rhan o fuddsoddiad £3m, a bydd y gwaith datblygu yn Ysgol Bryncelynnog hefyd yn cynnwys trac athletau ar ei ymylon.  Rydyn ni'n gobeithio gwneud cyhoeddiad ynglŷn â gwelliannau posibl i gyfleuster Brenin Siôr V yn Nhonypandy yn y flwyddyn nesaf yn ogystal.

Mae ein buddsoddiad yng nghyfleusterau chwarae i blant yn parhau, a bydd 27 o fannau chwarae wedi cael eu gwella erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma.  Ers 2015, rydyn ni wedi gwella 97 o fannau chwarae i blant (45% o'n holl fannau chwarae) trwy fuddsoddi £3.2m – dyna dros hanner o'r holl welliannau i fannau chwarae ar gyfer Cymru gyfan yn ystod y cyfnod yma.

Er y datblygiadau da yma, mae rhaid inni hefyd fod yn realistig wrth fynd ati, ac rydyn ni'n gwybod bod diffygion gwirioneddol yn ein refeniw dros y 9 mlynedd diwethaf wedi rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau rheng-flaen.  Fel sy'n digwydd mewn sawl Cyngor arall yng Nghymru, mae ein sectorau gwasanaethau cymdeithasol ac addysg o dan wasgfa oherwydd cyfuniad o arian llai a galw cynyddol di-baid ar y gwasanaethau yma, oherwydd chwyddiant uwch.  Byddwn ni bob amser yn edrych i wneud arbedion effeithlonrwydd, ac edrych ar y ffordd rydyn ni, a ninnau'n gorff corfforaethol, yn cau'r bylchau yn y gyllideb, er mwyn osgoi trosglwyddo effeithiau cyni i'n trigolion ni, lle y bo'n bosibl.

Wedi ei bostio ar 04/12/18