Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 'cyfnod atal byr' ('circuit breaker') yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref, tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd 2020.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor: “Rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod pryderus i breswylwyr a pherchnogion busnes, ond mae swyddogion iechyd cyhoeddus wedi nodi'n glir bod y penderfyniad yma wedi'i wneud yng ngoleuni'r cynnydd parhaus a thwf esbonyddol mewn achosion o COVID-19 ledled Cymru. Rydyn ni wedi gweld bron i 1,000 achosion yn RhCT yn ystod y 14 diwrnod diwethaf. Bydd y 'cyfnod atal byr' yn rhwystro'r sefyllfa rhag gwaethygu, drwy atal dulliau o drosglwyddo'r feirws. Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion yn cynyddu'n aruthrol. 

"Fel llawer o siroedd eraill, mae Rhondda Cynon Taf wedi wynebu cyfyngiadau lleol dros yr wythnosau diwethaf. Er bod hyn wedi bod yn llwyddiant wrth arafu'r cynnydd mewn achosion newydd - a oedd yn cynyddu ar gyfradd llawer cyflymach - bellach, mae angen mesurau cenedlaethol pellach er mwyn atal y GIG rhag gorfod wynebu'r un straen ag yn gynharach eleni, ac er mwyn achub bywydau yn y pen draw.

"Afraid dweud, bydd llawer o deuluoedd yn dechrau edrych tuag at gyfnod y Nadolig ac, yng ngoleuni heriau eleni, byddan nhw'n awyddus i dreulio amser gyda'u hanwyliaid.  Rydyn ni wedi nodi'n glir wrth weinidogion yr angen i sicrhau bydd cyfnod y Nadolig mwy neu lai fel pob Nadolig arall a, thrwy gymryd camau pendant nawr, maen nhw wedi rhoi’r cyfle gorau posibl i hynny ddigwydd. 

"Yn dilyn cyhoeddiad heddiw, bydd pob llyfrgell, canolfan y gymuned a chanolfan ailgylchu'r Cyngor yn cau. Bydd toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor yng nghanol trefi, ond byddan nhw ar agor am gyfnod llai na'r arfer. Bydd pob parc, man chwarae a mynwent hefyd yn parhau ar agor.

"Rydyn ni hefyd wedi trafod y pryderon a fydd gan lawer o berchnogion busnes yn sgil y cyfnod cloi newydd yma ledled Cymru. Rwy'n falch bydd £300miliwn ar gael i roi help llaw i fusnesau. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth cyn bo hir a bydd y Cyngor yn ei rhannu â thrigolion cyn gynted â phosibl wedi hynny."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin manwl ynglŷn â’r cyfnod atal byr – mae modd eu gweld yma. 

Wedi ei bostio ar 21/10/2020