Mae'n sicr wedi bod yn brysur iawn yn y byd gwleidyddol, ac yma yn Rhondda Cynon Taf gyda'r is-etholiad cyngor diweddar yn ward Ynys-hir. Hoffwn longyfarch pob un o'r pedwar AS yn RhCT sydd wedi dychwelyd i'n hetholaethau ac i'r Cynghorydd Julie Edwards, cynghorydd newydd Ynys-hir.

Wrth gwt ddydd Iau diwethaf, daeth Setliad Arfaethedig Llywodraeth Leol wrth Lywodraeth Cymru. Bydd Rhondda Cynon Taf, o ganlyniad, yn gweld cynnydd o 4.5% (£16 miliwn) o gyllid yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ar ôl bron i ddegawd o lymder parhaus, mae hyn yn rhywbeth i'w groesawi gan Awdurdodau Lleol Cymru, ac er, yn amlwg, dyw hyn ddim yn dadwneud y difrod gafodd ei achosi gan lymder, mae'n gam positif ymlaen. Dyma'r dyraniad setliad gorau ers 12 mlynedd, a hynny ar adeg pan fo straen a chostau'n tyfu. Mae fy nghyd-arweinwyr cyngor a minnau wedi cael trafodaethau cyson a gonest gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac mae cyhoeddiad dydd Llun diwethaf yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn gweld Llywodraethau Lleol fel blaenoriaeth o ran cyllido, gan alluogi'r Cynghorau i fuddsoddi yn eu prif wasanaethau.

Yn rhan o'n paratoadau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod, rydyn ni wedi cau cam cyntaf ein proses Ymgynghori Blynyddol ar y Gyllideb. Mae safbwyntiau ein trigolion yn ffurfio rhan bwysig wrth fwrw ati i gynllunio, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi llenwi'r arolygon, sydd wedi ymateb i arolygon ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ac wedi dod i drafod wyneb-yn-wyneb yn rhan o'n hachlysuron ledled y sir. Gan ddefnyddio canlyniadau'r cam cyntaf yma, byddaf yn gofyn i'm cyd-weithwyr yn y Cabinet ystyried edrych ar ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol sydd gyda ni i fuddsoddi mewn nifer o'r meysydd o flaenoriaeth allweddol, gan gynnwys ysgolion ac addysg, iechyd cymdeithasol, gwasanaethau ieuenctid a throseddu ieuenctid, mesurau gwrth-dlodi ac estyniad i'n cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach gafodd ei gyflwyno'n ddiweddar. Bydd hyn yna'n bwydo ail gam ein prosess ymgynghori ar y gyllideb, gan roi'r cyfle i drigolion unwaith eto drafod gyda ni a llywio darpariaeth gwasanaethau 2020/21, wrth i ni edrych ar barhau i wneud cynnydd gwych drwy ddarparu ein blaenoriaethau ac ymrwymiadau.

Wrth drafod cyflawni ymrwymiadau, rydw i'n falch o gadarnhau bod cynllun Wi-fi am ddim y Cyngor ar gyfer canol ein trefi ar gael yn Aberpennar. Daw hyn yn dilyn treialu'r cynllun yn Aberdâr, cynllun gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref. Bydd y cynllun yn parhau i gael ei ddarparu i'r pum canol tref sy'n weddill dros y misoedd nesaf, wrth i ni barhau i gefnogi canol ein trefi.

Gan aros yn Aberpennar, bydd Rasys Nos Galan yn dod i'r dref unwaith eto eleni, gan ddathlu 61 mlynedd ers sefydlu'r achlysur am y tro cyntaf. Unwaith eto, rydyn ni'n disgwyl miloedd o bobl i ddod i gefnogi'r nifer uchaf erioed o gystadleuwyr. Mae modd dod o hyd i wybodaeth am yr achlysur ar wefan Rasys Nos Galan, a bydd yn cael ei hyrwyddo drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wrth i ni edrych ymlaen at 31 Ionawr.

Yn olaf, hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un o'n trigolion.

Wedi ei bostio ar 23/12/2019