Nododd yr wythnos yma flwyddyn ers i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf gael eu difrodi gan y llifogydd digynsail wedi'u hachosi gan Storm Dennis. Cafodd y digwyddiad effaith ar dros 1,400 o gartrefi a busnesau. Roedd hyn yn cynrychioli dros hanner cyfanswm yr holl eiddo yng Nghymru gyfan.  Yn ogystal â hynny, cyfanswm y difrod i seilwaith y Cyngor,  gan gynnwys pontydd, waliau afonydd a chwlferi, oedd dros £70 miliwn. Dydy hyn ddim yn cynnwys cost y gwaith ar dirlithriad Tomen Lo Tylorstown.

Ers Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi buddsoddi bron i £17 miliwn mewn gwaith trwsio a gwella seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Mae dros 100 o gynlluniau naill ai wedi'u cwblhau, yn mynd rhagddyn nhw, neu wedi cyrraedd y cam dylunio.  Ddydd Mawrth, croesawodd y Cyngor £4.4 miliwn o gyllid allanol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi hwb i'r rhaglen waith barhaus a sylweddol yma. 

Mae'n amlwg na fydd trwsio'r difrod i'r seilwaith yn broses gyflym. Yn lle hynny, bydd angen cynnal rhaglen barhaus dros sawl blwyddyn. Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i flaenoriaethu’r maes yma yng ngoleuni amlder digwyddiadau tywydd yn ystod y 12 mis diwethaf.  Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym yn RhCT adeg ysgrifennu'r neges yma. Mae'r Cyngor, unwaith eto, wedi bod yn rhagweithiol yn archwilio cwlferi ac wedi trefnu adnoddau ychwanegol fel mesur rhagofalus i ymateb i unrhyw broblemau dros y penwythnos.  Hoffwn i atgoffa ein holl drigolion i ffonio'r Cyngor ar 01443 425011 os byddwch chi'n wynebu argyfwng o ganlyniad i'r tywydd dros y penwythnos.

Mae'n amlwg bod newid yn yr hinsawdd yn ffactor sylweddol sydd wedi cyfrannu at y cynnydd o ran amlder digwyddiadau tywydd. Dyma pam mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar gynigion i ddyrannu £500,000 ychwanegol y flwyddyn, bob blwyddyn, ar gyfer recriwtio Carfanau Draenio ychwanegol a chyllideb sylfaenol o £100,000 ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon. Mae hyn i'w weld yng nghynigion Cyllideb 2021/22 (drafft) fydd yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.

Y Newyddion Diweddaraf am y Cyfyngiadau Symud

Heddiw, roedd Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau "Aros Gartref" yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru am o leiaf 3 wythnos, gyda'r bwriad o ddechrau llacio'r cyfyngiadau ym mis Mawrth.  Mae'n deg dweud bod y cyfyngiadau symud cyfredol wedi bod yn anodd iawn i bawb, gyda nifer o bobl yn profi Nadolig gwahanol iawn i'r arfer wrth i nifer yr achosion gyrraedd lefelau eithriadol o uchel.  Dim ond nawr rydyn ni'n dechrau gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion, ac mae hynny'n tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i'r aberthau mawr y mae'r mwyafrif o unigolion yn parhau i'w gwneud bob dydd.  Ddoe, dim ond 8 achos newydd o COVID-19 gafodd ei gofnodi yn RhCT ac mae'r gyfradd o achosion fesul 100,000 o bobl wedi gostwng o 107.4 yr wythnos ddiwethaf i 85.4 yr wythnos yma. Roedd y gyfradd o achosion positif wedi gostwng o 8.7% i 8% dros gyfnod o saith niwrnod. 

Mae angen i bob un ohonom ni barhau i fod yn ofalus yn enwedig yn ystod y tair wythnos nesaf, a thu hwnt i hynny, i sicrhau bod modd i ni adael y cyfyngiadau symud cyfredol a bod gyda ni'r cyfle gorau posibl o osgoi gorfod dychwelyd i'r cyfyngiadau yn y dyfodol.

Yn ogystal â chyhoeddi y bydd y Cyfyngiadau Symud yn parhau, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd nifer y bobl sydd â'r hawl i gwrdd i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn cynyddu i bedwar (yn lle dau) o yfory (dydd Sadwrn 20 Chwefror) - er y bydd angen i'r gweithgareddau yma gychwyn/gorffen yn y cartref.  O 1 Mawrth, bydd modd i leoliadau priodas trwyddedig ailagor a bydd trafodaethau yn cychwyn ynghylch ailagor y diwydiant twristiaeth erbyn y Pasg, yn ogystal ag ailagor siopau nad ydyn nhw'n rhai hanfodol yn ofalus.

Rydw i'n gwybod y bydd nifer o bobl yn awyddus i fwrw ymlaen â'r broses o lacio'r cyfyngiadau symud, ond wrth i'r amrywiolyn a welwyd yn gyntaf yng Nghaint fynd ar led yn sawl rhan o Gymru yn ogystal ag amrywiolyn De Affrica, rydw i'n gryf o'r farn bod angen i ni lacio'r cyfyngiadau symud yma'n araf deg.  Y peth olaf rydyn ni eisiau'i weld yw ein bod ni'n dychwelyd i'r cyfyngiadau symud unwaith eto ar ôl y cam yma, hoffwn i ofyn bod pawb yn parhau i gymryd camau i gadw'u hunain a'u cymunedau'n ddiogel.

Wedi ei bostio ar 19/02/2021